Dyn yn cropian i gopa’r Wyddfa mewn 13 awr i helpu eraill
01/09/2021
Mae dyn wedi treulio 13 awr yn cropian i gopa’r Wyddfa mewn gobaith i helpu eraill ar ôl iddo ddioddef anaf a newidiodd ei fywyd.
Fe wnaeth Paul Ellis, 56, gropian i godi arian i Amp Camp Kids, elusen sy’n helpu plant sydd wedi colli rhannau o’u cyrff.
Ym 1992, fe dorrodd Mr Ellis ei asgwrn cefn, gan ei adael wedi ei barlysu am chwe mis.
Ar ôl byw mewn poen am flynyddoedd, fe benderfynodd dderbyn llawdriniaeth i dorri ei goesau o dan ei bengliniau.
Ond, mae’r gŵr o Widnes yn benderfynol o helpu eraill, ac fe lwyddodd i gasglu dros £24,000 i’r elusen ar ei daith.
Darllenwch y stori’n llawn ar wefan y Liverpool Echo yma.
Llun: Paul Ellis