Newyddion S4C

Galwadau i newid arferion siopa sy’n ‘ddinistriol’ i’r blaned

01/09/2021
Dillad

Mae elusen Oxfam yn annog pobl ledled y wlad i brynu dillad ail-law yn unig ym mis Medi er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r effaith “ddinistriol” mae ffasiwn cyflym yn ei gael ar y blaned.

Mae ffasiwn cyflym yn cael ei ddisgrifio fel ffasiwn sy’n cael ei gynhyrchu yn gyflym ac yn rhad, ac sy’n aml yn cael ei daflyd ar ôl ei wisgo ambell waith.

Dywed yr elusen fod y diwydiant yn cael effaith negyddol ar newid hinsawdd, gyda’r diwydiant tecstiliau yn gyfrifol am 10% o allyriadau’r byd.

Maen nhw eisiau i brynwyr ailddefnyddio, ailgylchu ac ail-fuddsoddi eu dillad i greu dyfodol “gwyrddach a thecach i bawb”.

Ymgyrch ‘Mis Medi Ail-law’

Yn ôl Oxfam Cymru, mae 13 miliwn o eitemau o ddillad yr wythnos yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Yn y Deyrnas Unedig, mae oddeutu 350,000 o dunelli o ddillad yn cael eu hafnon i safleoedd tirlenwi, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae hefyd 14,000 tunnell o ddillad neu dros 47 miliwn o eitemau'r flwyddyn yn y Deyrnas Unedig yn cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi trwy gael eu rhoi i elusen Oxfam.

Yn fwriadol mae’r ymgyrch yn digwydd cyn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr hinsawdd, COP26, a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Dywedodd Lawrence Lomas, Rheolwr Ardal Manwerthu Oxfam Cymru: “Rydym wedi cael ein rhybuddio ers blynyddoedd ynglŷn ag effeithiau difrifol newid hinsawdd ar ein planed, ac wedi i’r Cenhedloedd Unedig ddatgan cod coch ar gyfer dynoliaeth, ni allai’r rhybudd hwn fod yn fwy llym.

“Mae’n rhaid i arweinwyr byd weithredu’n gyflym i arafu, a lleihau'r dinistr y gallai dynoliaeth ei wynebu, gan hefyd gefnogi cymunedau tlotach o amgylch y byd sy’n cael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.