Newyddion S4C

Cymru’n herio’r Ffindir wedi newidiadau munud olaf i’r garfan

01/09/2021
Cymru

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Helsinki nos Fercher.

Daw hyn wrth i’r rheolwr dros dro, Rob Page, orfod gwneud newidiadau i’r garfan oherwydd anafiadau ac achos positif o Covid-19.

Fe fydd y gic gyntaf yn y Stadiwm Olympaidd, Helsinki am 17:00.

Daeth cadarnhad ar ddechrau’r wythnos fod Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams allan o’r garfan oherwydd anafiadau.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Adam Davies, sy’n chwarae safle’r gôl-geidwad, wedi profi’n bositif am Covid-19.

Mae Kieffer Moore yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad agos â Davies.

Mae Tom King wedi ei alw i’r garfan yn lle Davies, ond nid oes cadarnhad pwy fydd yn cymryd lle Moore hyd yn hyn.

Bydd y ddau chwaraewr yn hunanynysu am 10 diwrnod ac felly ni fydden nhw’n chwarae i Gymru yn ystod eu tair gêm nesaf.

Bydd Cymru yn wynebu Belarws ac Estonia yn ddiweddarach yn y mis yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C ddydd Mercher, gyda’r sylwebaeth yn dechrau am 16:30.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.