Newyddion S4C

'Yma i helpu pobl': Lansio bws cymunedol newydd Dyffryn Ogwen

26/04/2024
Bws Dyffryn Ogwen

Bydd bws trydan cymunedol newydd yn cael ei lansio yn Nyffryn Ogwen ddydd Gwener, a hynny er mwyn darparu trafnidiaeth fforddiadwy a chynaliadwy i'r gymuned.

Mae Partneriaeth Ogwen wedi lansio bws newydd cymunedol yn Nyffryn Ogwen fel rhan o'u prosiect trafnidiaeth, Dyffryn Caredig. 

Mae Ynni Ogwen wedi prynu bws trydan 16 sedd a'i roi i Bartneriaeth Ogwen fel rhan o brosiect Dyffryn Caredig er budd y gymuned. 

Mae Dyffryn Caredig yn brosiect dwy flynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gymunedol mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy i gymunedau ardal Dyffryn Ogwen. 

Y bwriad hefyd ydi gobeithio cyfrannu at leihau ôl-troed carbon y Dyffryn.

Dywedodd Rheolwr Dyffryn Caredig, Huw Davies wrth Newyddion S4C: "Ma'n briliant, 16 sedd a hollol electrig, oedd hi wrthi bore Iau yn ôl ac ymlaen yn mynd â disgyblion i gystadleuaeth rygbi yn Llangefni o Pesda.

"Ma' 'na ddefnydd gan ysgolion yn ystod y tymor ysgol a wedyn 'dan ni'n gwneud teithia' hamdden wedyn, fuon ni yn Broughton Park bythefnos yn ôl, Pwllheli wsos dwytha a braf de, bod bobl hŷn yn Pesda sydd ddim yn dreifio yn cael mynd a ddim 'di gweld Pwllheli ers blynyddoedd.

"Wrth gwrs, toes 'na ddim allyriada a ma' gynno ni fwy o baneli solar yn mynd i fyny rwan, so fydd o'n drafnidiaeth lân sydd yn bwysig iawn efo'r argyfwng hinsawdd.

"Be 'dan ni'n neud ydi annog pobl leol i ddefnyddio'r adnoddau yma ag ella rhoi blas i bobl sydd isio ystyried newid i gerbyd trydan."

'Yma i helpu pobl'

Er bod y gwasanaeth yn gofyn am gyfraniad i ddefnyddio'r bws, y bwriad ydi cynnig cymorth i'r bobl yn y gymuned yn ôl Mr Davies.

"Dan ni'n gofyn am gyfraniad, ond 'dan ni'n neud o mor fforddiadwy â phosibl...'dan ni yma i helpu pobl," meddai.

"'Dan ni'n mynd a nhw o ddrws i ddrws, a ma'n gneud lot o wahaniath i bobl sy'n byw ar ben allt ella sydd methu cerddad yn bell."

Mae gan y prosiect gyfanswm o bump cerbyd trydan, gyda rhai o'r rhain yn hygyrch ac ar gael i'w llogi. 

"'Dan ni wedi gwneud 25,000 o filltiroedd glân yn y flwyddyn dwytha, a fydd o fwy fel 40,000 flwyddyn nesa, a ti'n arbed dros 12 tunnall o garbon.

"Os ydi corff bach fatha ni yn Nyffryn Ogwen yn gallu neud o, os ydy'r gymuned yn medru neud o, mae o'n gosod esiampl i gyrff mwy.

"Ma' raid i ni sbio yn nes at adra does, dechra wrth dy draed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.