Newyddion S4C

'Gwelliannau sylweddol' i wasanaethau mamolaeth mewn ysbyty ym Merthyr Tudful

26/04/2024
ysbyty tywysog siarl.png

Mae 'gwelliannau sylweddol' wedi cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth mewn ysbyty ym Merthyr Tudful yn ôl adroddiad newydd. 

Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) adroddiad ddydd Gwener wedi arolygiad dirybudd o'r Uned Famolaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. 

Mae'r ysbyty yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Dywed yr adroddiad ei fod yn 'gadarnhaol' gweld nifer o welliannau ers yr arolygiad blaenorol ym mis Medi 2022. 

Er hyn, mae'r adroddiad yn nodi fod yr her i wella morâl ymhlith staff yn 'parhau o hyd'.

Fe gafodd yr arolygiad dirybudd ei gwblhau dros gyfnod o dri diwrnod olynol ym mis Ionawr eleni, gan ganolbwyntio ar ofal cynenedigol a gofal ôl-enedigol, a gwasanaethau ar gyfer ysgogi'r cyfnod esgor.

Roedd staff ar bob lefel yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i fenywod yn ôl yr adroddiad, gyda staff yn dangos parch ag agwedd broffesiynol at gleifion a'u teuluoedd. 

'Gwrando'

Nododd arolygwyr fod staff yn gwrando ar ddewisiadau'r cleifion, gan weithredu arnynt. 

Ychwanegodd yr adroddiad fod bydwragedd arbenigol ar gael yn yr uned er mwyn cefnogi cleifion a'u teuluoedd a oedd angen cymorth ychwanegol. 

Ond nododd arolygwyr wrth edrych ar gofnodion cleifion bod oedi o bryd i'w gilydd wrth roi meddyginiaethau lleddfu poen yn sgil lefelau staffio isel yn yr uned. 

Aeth yr adroddiad ymlaen i nodi hefyd fod staff wedi awgrymu nad oedd aelodau'r tîm rheoli yn 'ymgysylltu ddigon nac i'w gweld ddigon ar yr uned'.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: "Roedd yn gadarnhaol gweld bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol, gyda sawl enghraifft o arfer da. 

"Fodd bynnag, rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod digon o adnoddau ar y wardiau a allai, yn y pen draw, gael effaith gadarnhaol ar forâl a llesiant y staff. 

"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd parhaus yn erbyn ein canfyddiadau."

Dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn croesawu canfyddiadau adroddiad heddiw, a'r cydnabyddiaeth bositif o'n gwasanaeth mamolaeth yn Ysbyty y Tywysog Siarl, lle'r ydym yn parhau wedi ein hymrwymo i wella ein gwasanaethau a darparu'r gofal uchaf i'n teuluoedd.

"Rydym wedi rhoi sylw i'r camau a gafodd eu nodi yn yr adroddiad, ac rydym yn parhau i recriwtio i lenwi ein swyddi bydwreigiaeth gwag, gan sicrhau fod ein gwasanaethau yn cael eu staffio yn briodol gyda phrosesau uwchgyfeirio clir ar waith."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.