Newyddion S4C

‘Angen ymchwiliad annibynnol’ i roddion Vaughan Gething meddai AS Llafur

Y Byd yn ei Le 25/04/2024

‘Angen ymchwiliad annibynnol’ i roddion Vaughan Gething meddai AS Llafur

Mae Aelod Seneddol Llafur wedi dweud fod “angen ymchwiliad annibynnol” i roddion i ymgyrch y Prif Weinidog Vaughan Gething i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.

Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C dywedodd Beth Winter, AS Cwm Cynon, na ddylai Vaughan Gething fod wedi derbyn yr arian ac y dylai ei roi yn ôl.

Ychwanegodd bod yna “bob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb” am y penderfyniad i dderbyn y rhoddion.

Daw ei sylwadau wedi i gwestiynau godi ynglŷn ag ymgyrch Mr Gething i olynu Mark Drakeford yn swydd arweinydd Llafur Cymru. 

Yn ystod y ras, fe ddaeth i’r amlwg bod ei ymgyrch wedi derbyn rhodd o £200,000 gan y Dauson Environmental Group. 

Mae cyfarwyddwr y grŵp eisoes wedi cael ei ddyfarnu’n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Vaughan Gething wedi dweud yn gyson “nad oedd rheolau wedi cael eu torri” wrth dderbyn y rhodd.

Ond wrth siarad ar Y Byd yn ei Le dywedodd Beth Winter: “Sai’n mynd i ddod ar raglen deledu ac amddiffyn Vaughan Gething.

“Dyle fe ddim bod wedi derbyn yr arian. Dyle fe roi’r arian yn syth yn ôl.

“A derbyniodd e’r arian gan rywun sy’n euog o droseddau amgylcheddol. Ac mae bob math o gwestiynau difrifol angen eu hateb.”

Ychwanegodd: “A da ni angen ymchwiliad annibynnol – dwi’n cytuno fod angen un.

“Dw i’n becso fod rhywun wedi derbyn mor gymaint o arian am etholiad mewnol. Dros £200,000.

“Mae’r person mae wedi derbyn yr arian – mae yna gwestiynau difrifol iawn i’w hateb.

“Ac os yn ni’n mynd i adennill hyder pobl Cymru mewn gwleidyddion dyn nhw ddim yn mynd i dderbyn arolygiad mewnol – rhaid i ni gael ymchwiliad annibynnol.”

‘Positif’

Daw sylwadau Beth Winter wedi i arweinydd amlycaf un o gynghorau Llafur Cymru ddweud y byddai'n "well" pe na bai ei blaid yn derbyn rhoddion dros ben gan ymgyrch Vaughan Gething.

Awgrymodd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf, efallai na fyddai hynny'n syniad da "oherwydd y storm enfawr yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau”.

Mae Vaughan Gething eisoes wedi cyhoeddi y bydd un o’i ragflaenwyr yn arwain adolygiad mewnol i’r broses o’i ethol yn arweinydd Llafur Cymru.

Dywedodd wrth raglen wleidyddol ITV Cymru Wales, Sharp End, ei fod wedi gofyn i Carwyn Jones gadeirio’r adolygiad mewnol.

“Dwi wedi bod yn rhan o gyfarfod positif a chytûn gyda’r Pwyllgor Gweithredol Cymreig dros y penwythnos, lle ry’n ni wedi gwireddu fy ymroddiad i gael adolygiad teg o’r broses ethol,” meddai Mr Gething. 

“Cyllid ymgyrchoedd yw un o’r materion i gytuno arnyn nhw. Ac o fewn hynny, mae yna bobl wnaeth gymryd rhan yn yr ymgyrch, ar fwy nag un un ochr.

“Mae Carwyn Jones, ar fy nghais i, wedi cytuno i gadeirio’r adolygiad. Ac mi fydd yn adrodd i Bwyllgor Gweithredol Llafur Cymru ym mis Medi.”

Gallwch wylio Y Byd yn ei Le ar S4C, S4C Clic a BBC iplayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.