Newyddion S4C

Tystiolaeth o'r 'frech goch yn lledaenu yn y gymuned' medd Iechyd Cyhoeddus Cymru

26/04/2024
frech goch

Mae tystiolaeth fod y frech goch yn ''lledaenu yn y gymuned yng Ngwent' yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae naw achos o'r ferch goch (measles) bellach wedi eu cadarnhau yng Ngwent, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechu'n llawn gyda dau ddos o'r brechlyn MMR. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan er mwyn nodi cysylltiadau'r holl achosion.

Ychwanegodd y sefydliad fod yr holl gleifion yn derbyn 'gofal priodol'.

'Byth yn rhy hwyr'

Dywedodd yr Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Brigiad amlasiantaeth, Beverley Griggs: "Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn a gall fod â chymhlethdodau difrifol, yn enwedig i fabanod, y rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach, a menywod beichiog.

 "Gellir atal y frech goch drwy'r  brechlyn MMR hynod effeithiol a diogel. Dylai rhieni a gofalwyr nodi efallai y bydd angen i blant nad ydynt wedi derbyn cwrs llawn o MMR gael eu tynnu o'r ysgol am hyd at 21 diwrnod, os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt achos o'r frech goch.  

"Rydym yn deall y gall hyn effeithio ar blant sydd i fod i sefyll arholiadau yn fuan a byddem yn gofyn am gymorth parhaus rhieni i atal achosion pellach o'r frech goch yn y gymuned."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol  Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yr Athro Tracy Daszkiewicz: "Byddwn yn gofyn i'r holl rieni yng Ngwent sicrhau bod eu plant wedi derbyn eu brechiadau MMR ar yr oedran priodol – hynny yw, y dos cyntaf tua 12 mis oed gyda'r ail ddos atgyfnerthu pan fyddant yn dair a phedwar mis oed.   

"Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR eto, gall barhau i ddod ymlaen i gael ei frechlyn. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

“Yn ogystal, anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.