Newyddion S4C

Cyn-bennaeth addysg Gwynedd 'wedi derbyn rhybudd am Neil Foden'

25/04/2024
Neil Foden (artist)

Mae achos wedi clywed fod cyn-bennaeth addysg wedi ei rybuddio’n flaenorol am bryderon bod prifathro yng Ngwynedd, sydd wedi’i gyhuddo o gam-drin plant yn rhywiol, wedi “rhoi ei hun mewn perygl o gyhuddiad posib o gamymddwyn.” 

Ar bedwerydd diwrnod o'r achos yn erbyn Neil Foden yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, fe glywodd y rheithgor fod cydweithiwr i Mr Foden wedi egluro eu pryder i bennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson. 

Dywedodd y tyst fod Mr Foden wedi dweud wrtho ei fod yn “siomedig iawn” ei fod wedi gwneud hynny, ac fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad nad oedd unrhyw achos yn erbyn Mr Foden, 66 oed, o Hen Golwyn.  

Yn ystod yr achos ddydd Iau fe ddangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng yr honnir iddynt fod yn dangos plentyn yn cerdded o flaen Mr Foden at ei gar.

Yn gynharach clywodd yr achos sut yr oedd plentyn wedi credu eu bod “mewn perthynas” â Mr Foden.

Roedd y plentyn wedi bod yn teimlo’n “drist iawn” am ddweud wrth oedolyn am y cam-drin rhywiol honedig gan Mr Foden.  

Mae Mr Foden yn gwadu 20 cyhuddiad yn ymwneud â phum plentyn.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.