Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mawrth, 31 Awst, o Gymru a thu hwnt.
Milwyr olaf yr UDA wedi gadael Afghanistan ar ôl ymgyrch 20 mlynedd- Sky News
Mae milwyr olaf yr Unol Daleithiau yn Afghanistan wedi hedfan o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol y wlad i ben ar ôl ugain mlynedd. Bu farw mwy na 2,400 o Americanwyr yn ogystal â degau o filoedd o bobl Afghanistan dros y cyfnod.
Rhybudd claf Covid ifanc i eraill o’i gwely mewn ysbyty
Mae dynes ifanc sydd wedi ei tharo'n ddifrifol wael gyda Covid-19 wedi rhybuddio pobl ifanc am beryglon yr haint. Cafodd Maisy Evans, sydd yn 17 oed ac o Gasnewydd ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef sgil-effeithiau'r haint, gan gynnwys ceulad ar ei hysgyfaint.
'Rhaid gwneud mwy’ am farwolaethau cyffuriau
Mae marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi disgyn i’w lefelau isaf ers 2014, yn ôl dadansoddiad diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Serch hynny, mae angen “gwneud mwy” ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau, yn ôl Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl Cymru.
Disgwyl i Leeds United arwyddo’r Cymro Daniel James- Wales Online
Mae disgwyl i’r pêl droediwr Daniel James adael Manchester United ac arwyddo i dîm Leeds United yn fuan yn ôl adroddiadau, a hynny am £24m. Mae James wedi bod yn chwarae i glwb Manchester United ers dwy flynedd a hanner.
Dinasyddion yr UE i gael cymorth hyd at ddiwedd 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn gallu parhau i gael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.