Newyddion S4C

‘Rhaid gwneud mwy’ am farwolaethau cyffuriau

31/08/2021
Cyffuriau

Mae marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi disgyn i’w lefelau isaf ers 2014, yn ôl dadansoddiad diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Serch hynny, mae angen “gwneud mwy” ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau, yn ôl Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl Cymru.

Yn 2020, bu farw 224 o bobl oherwydd gwenwyn cyffuriau yng Nghymru, gyda 149 o’r rhain oherwydd camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon.

O’i gymharu â 2019, roedd 16 o farwolaethau yn llai o achos camddefnyddio cyffuriau.

Dyma’r nifer lleiaf o farwolaethau camddefnyddio cyffuriau i gael ei gofnodi ers 2014 yng Nghymru, ond mae’r dirprwy weinidog yn dweud bod angen gwneud mwy “er bod llai yn marw oherwydd cyffuriau”.

Dywedodd Lynne Neagle: “Mae pob marwolaeth yn drasiedi, ond mae’n galonogol gweld y lefel isaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru ers 2014.

“Er gwaethaf y ffigurau addawol hyn, rydym yn deall bod angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod y rhai sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, caethiwed a digartrefedd yn gallu cael at y gwasanaethau cymorth angenrheidiol pan fo arnynt eu hangen fwyaf.

“Mae angen inni wneud mwy i fynd i’r afael â’r stigma y mae cynifer o bobl yn ei wynebu mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, a chydnabod bod camddefnyddio sylweddau i lawer o unigolion yn deillio o drawma sylweddol, yn hytrach nag yn ffordd o fyw y maent wedi’i dewis.”

Ychwanegodd: “Drwy waith hollbwysig mewn cyfleusterau fel y rhain rydym yn gobeithio parhau i weld gostyngiad mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru a mwy o bobl yn gwella ar ôl cael triniaeth.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff ledled Cymru a helpodd i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn drwy gydol y pandemig, ac yn benodol am eu cymorth i gefnogi’r ymdrechion i ddod â phobl i mewn oddi ar y strydoedd.”

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £55m bob blwyddyn i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ac rhwng 2020 a 2021 darparwyd £4.8m ychwanegol i gefnogi’r ymateb i Covid-19.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.