Claf Covid ifanc yn cael ei thargedu ar-lein ar ôl annog pobl i gael y brechlyn
Mae dynes ifanc sydd wedi ei tharo'n ddifrifol wael gyda Covid-19 wedi derbyn negeseuon cas ar-lein ar ôl iddi rybuddio pobl ifanc am beryglon yr haint a’u hannog i gael y brechlyn.
Cafodd Maisy Evans, sydd yn 17 oed ac o Gasnewydd ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef sgil-effeithiau'r haint, gan gynnwys ceulad ar ei hysgyfaint.
Dywedodd y cyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru nad oedd yr haint "yn jôc i bobl ifanc a dylai pawb sy'n gymwys gael eu brechu".
Yn ôl Sky News, mae Maisy wedi derbyn negeseuon yn ei chyhuddo o “ddweud celwydd” ac yn “actores sy’n cael ei thalu gan y llywodraeth” ers rhannu ei phrofiad.
Mewn nifer o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol o'r ysbyty dros y penwythnos, esboniodd sut y gwaethygodd ei chyflwr.
Roedd Maisy wedi derbyn un brechiad Covid-19 yn barod, ond fe ddioddefodd symptomau Covid-19 dros gyfnod o bythefnos cyn i'w chyflwr waethygu ac fe fu'n rhaid iddi fynd i'r ysbyty am driniaeth ar 25 Awst.
Roedd meddygon yn pryderu fod ganddi lîd ar yr ymennydd neu'n dioddef o sepsis i ddechrau: "Nawr, mae'n hawdd i mi benderfynu pa fwgwd y byddaf yn ei wisgo, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n orfodol. Nid yw'r firws hwn yn jôc i bobl ifanc a dylai bawb sy'n gymwys gael eu brechu," meddai.
"Rwyf wedi bod yn yr ysbyty am 3 diwrnod gydag ofnau cychwynnol o meningitis/sepsis ond ar ôl profion gwaed, pelydrau-X, a sganiau CT, darganfuwyd tolchen gwaed sy'n gysylltiedig â Covid-19 ar fy ysgyfaint dde.
"Rwy'n 17 oed ac ar hyn o bryd rwy'n cymryd gwrthfiotigau, steroidau, morffin a theneuwyr gwaed. Parhewch i gymryd y firws hwn o ddifrif, hyd yn oed os ydych chi'n ystyried eich hun yn gyffredinol ffit, yn debyg i mi fy hun."
Ychwanegodd: "Rwy'n disgwyl aros cwpl mwy o nosweithiau oherwydd ar hyn o bryd nid wyf yn gallu rheoleiddio lefelau ocsigen fy hun. Hoffwn gymryd eiliad i ddiolch i'r staff gwych yn Ysbyty Athrofaol y Faenor am fy nhrin mor dda! Mae'n bilsen bron mor anodd ei llyncu â'r amoxicillin enfawr, ond dwi ddim yn meddwl y byddwn i yma heb y staff ar y ward hon felly diolch yn fawr iawn."