Newyddion S4C

Leeds United yn arwyddo’r Cymro Dan James

31/08/2021
S4C

Mae'r pêl-droediwr Daniel James wedi arwyddo cytundeb gyda thîm Leeds United am gyfnod o bum mlynedd. 

Mae'r chwaraewr 23 oed yn gadael clwb Manchester United wedi dwy flynedd a hanner. 

Nid yw'r ffi wedi ei datgelu eto, ond mae adroddiadau wedi awgrymu y gallai fod yn £24m. 

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Leeds United fod y Cymro wedi dod yn agos at ymuno gyda'r clwb yn ystod tymor y Bencampwriaeth 2018/19. 

Mae'n ymddangos mai yn Elland Road fydd ei ddyfodol bellach, ac yntau heb ymddangos yn gyson mewn gemau yn Old Trafford ers tro. 

Bydd James yn gwisgo crys 20 wrth gynrychioli ei glwb newydd.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.