Newyddion S4C

Milwyr olaf yr UDA wedi gadael Afghanistan ar ôl ymgyrch 20 mlynedd

Sky News 31/08/2021
milwyr uda

Mae milwyr olaf yr Unol Daleithiau yn Afghanistan wedi hedfan o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol y wlad i ben ar ôl ugain mlynedd.

Bu farw mwy na 2,400 o Americanwyr yn ogystal â degau o filoedd o bobl Afghanistan dros y cyfnod. 

Gadawodd yr awyren olaf am 15:29 brynhawn dydd Llun (amser Afghanistan), meddai’r Cadfridog Mckenzie, pennaeth Ardal Reoli Ganolog y UDA. 

Yn ystod y 17 diwrnod diwethaf mae ymgyrch filwrol y UDA wedi cludo dros 120,000 o ddinasyddion y UDA, dinasyddion eu cynghreiriaid, a chynghreiriaid Afghanistan yn yr UDA. 

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi disgrifio ymadawiad milwyr y UDA fel gweithred o "ddewrder, proffesiynoldeb a datrysiad". 

Darllenwch y diweddaraf yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.