Carcharu milwr o Lundain am gynllunio i dreisio merch a babi yng Nghymru
Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae milwr o Lundain a gynlluniodd i dreisio merch ifanc a babi 10 mis oed yng Nghymru wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd.
Roedd Graham Jarvis, 38 oed, wedi cytuno i gam-drin plant dynes yr oedd wedi ei chyfarfod ar-lein yn rhywiol.
Ei fwriad oedd teithio o farics yr Household Cavalry yn Hyde Park, Llundain, i'w chartref yng Nghymru i gyflawni'r troseddau.
Ond mewn gwirionedd roedd yn sgwrsio â swyddog cudd o'r heddlu a oedd yn esgus bod y fam.
Yn Llys y Goron Southwark yn Llundain ddydd Iau, cafodd Jarvis ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar am ddau gyhuddiad o geisio trefnu cyflawni trosedd rywiol yn erbyn plentyn.
Dywedodd y Barnwr Adam Hiddleston wrth Jarvis "nad oedd hyn yn achos o ffantasi ar eich rhan chi", a daeth i'r casgliad bod y milwr o ddifrif yn ei fwriad o dreisio'r plant.
"Does gen i ddim amheuaeth o gwbl, ar yr adeg i chi wneud y trefniadau, eich bod yn credu bod y plant yn real - merch saith oed a babi 10 mis oed; roeddech chi eisiau cwrdd â nhw, a phan wnaethoch chi hynny, gyda chymorth eu mam, roedd gennych chi'r bwriad o'u treisio," meddai'r barnwr.
'Oer a chlinigol'
Dywedodd ei fod wedi darllen negeseuon Jarvis "gyda braw", gan nodi eu bod yn datgelu ei agwedd "oer a chlinigol" tuag at y plant a'i barodrwydd i'w "trin yn syml fel gwrthrychau i fodloni eich chwant".
Dyfarnodd y barnwr y gallai Jarvis fod yn berygl parhaus i blant, a gorchmynnodd iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd o'i ddedfryd yn y carchar, gyda dwy flynedd ychwanegol ar drwydded yn cael eu hychwanegu at y ddedfryd honno.
Digwyddodd y troseddau yng nghanol mis Ionawr 2024, pan ddechreuodd Jarvis sgwrsio ar-lein â menyw a ddywedodd fod ganddi ddwy ferch - un yn saith oed a'r llall yn fabi 10 mis oed.
Gyrru i Gymru
Clywodd y llys fod Jarvis wedi dweud ei fod yn "hoff o ferched" ac wedi dechrau trefnu cyfarfod, gan gytuno y byddai'n gyrru o Lundain i gartref y fenyw.
Holodd y fam am brofiadau rhywiol ei merch hŷn, a chafodd wybod ei bod wedi cael cam-drin gan ddau ddyn yn y gorffennol.
Gan droi at y babi, gofynnodd Jarvis i'r fam ei helpu i gyflawni'r drosedd.
Roedd Jarvis wedi bwriadu teithio i Gymru ym mis Chwefror 2024, ond yna aeth yr heddlu i'w arestio.
Dywedodd Lisa Wilson, oedd yn cynrychioli Jarvis, wrth y llys ei fod wedi cael ei daflu allan o'r fyddin yn dilyn ei euogfarnau.
Dywedodd fod Jarvis "ar ei isaf" oherwydd "cyfnod trawmatig" pan gyflawnodd y troseddau dan sylw.
Mae bellach wedi cwblhau gradd mewn seicoleg anifeiliaid gyda'r Brifysgol Agored.
Roedd Jarvis wedi gwadu'r troseddau ond fe'i cafwyd yn euog mewn achos llys.
Mae wedi cael gorchymyn i dreulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar.