Gwynedd: Pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd ar ôl 'sawl digwyddiad agos'

Gwynedd: Pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd ar ôl 'sawl digwyddiad agos'

Mae pryder am ddiogelwch croesfan reilffordd yng Ngwynedd ar ôl "sawl digwyddiad agos" o ganlyniad i fethiannau yn y system goleuadau a seiren sy'n rhybuddio cerbydau bod trên yn cyrraedd.

Dywedodd perchennog busnes yn Llanbedr, Meirionnydd, wrth Newyddion S4C fod y system rhybuddio heb weithio ers dros wythnos bellach.

Rhannodd Richard Workman fideo lle gwnaeth trên arafu wrth gyrraedd y groesfan ar ôl i fan geisio croesi'r cledrau o gyfeiriad Llanbedr i Fochras.

Network Rail sy'n gyfrifol am sicrhau bod y goleuadau a'r seiren yn gweithio. Dywedodd y cwmni bod nhw "wedi rhoi gwybod i'w tîm rheoli lleol" a'u bod nhw "yn ymchwilio".

Mae Richard Workman yn un o gyfarwyddwyr Maes Gwersylla Mochras ar Ynys Mochras, ac mae wedi dweud mai "mater o amser" yw hi cyn i rywun gael ei anafu'n ddifrifol neu farw.

"Wrth i chi ddod o Lanbedr tuag at Ynys Mochras a Maes Awyr Llanbedr, mae'r trên wedi'i guddio o'r golwg wrth i chi agosáu at yr orsaf a'r groesfan. Felly allwch chi ddim gweld y trên mewn gwirionedd.

"Rydych chi'n dibynnu ar y goleuadau, ac yn amlwg nid yw'r signalau hynny ar waith. Dydych chi ddim yn gweld y trên nes eich bod chi bron iawn ar y groesfan, a'i weld o'ch blaen chi, ychydig fetrau i ffwrdd."

Image
Dyma mae gyrrwyr yn gweld wrth deithio dros y groesfan o Lanbedr i Ynys Mochras. Llun: Google
Dyma mae gyrrwyr yn ei weld wrth deithio dros y groesfan o Lanbedr i Ynys Mochras. (Llun: Google)

Fe wnaeth Richard ffilmio fideo yn dangos trên yn arafu nes iddo ddod i stop ar y groesfan oherwydd bod fan wedi ceisio croesi'r cledrau.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ac mae gyrrwr y trên yn codi ei law mewn ymddiheuriad wrth i'r trên barhau ar hyd y cledrau.

Nid oes arwyddion i rybuddio gyrwyr a cherddwyr nad yw'r goleuadau a'r seiren yn gweithio, a does dim rhwystrau wedi eu gosod i atal cerbydau rhag gyrru dros y cledrau pan fydd trên yn dod.

Roedd cynlluniau wedi bodoli ers o leiaf 2016 i osod rhwystrau ar y groesfan, gyda Network Rail yn nodi yn 2016 ei fod yn bwriadu adnewyddu'r groesfan a'i newid i groesfan awtomatig gyda rhwystrau erbyn 2018. 

Ni chafodd rhwystrau eu gosod ac, yn 2024, cadarnhaodd Network Rail nad oedd rhwystrau ar y groesfan, gan ddweud bod angen i ddefnyddwyr "fod yn barod i stopio pan fydd y goleuadau rhybudd yn gweithredu." 

'Peryglus'

Mae'r diffyg rhybuddion am broblemau gyda'r goleuadau a'r seiren yn "beryglus", meddai Richard Workman.

"Bu bron i fan sgaffaldiau lleol wrthdaro â'r trên o fy mlaen i. Roeddwn i wedi cyrraedd pen fy nhennyn, mae'r nam wedi cael ei riportio sawl gwaith i Network Rail.

"Mae sawl digwyddiad agos wedi bod erbyn hyn, ac rwy'n gwybod hynny am ffaith achos rwyf i wedi ei weld gyda llygaid fy hun."

"Ac eto, does dim arwyddion na mesurau rhybuddio wedi cael eu rhoi ar waith i rybuddio'r cyhoedd.

"Mae'n mynd yn beryglus. Dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei anafu neu i gar daro'r trên. Dyma'r orsaf mae Network Rail wedi'i hanghofio, gallwch chi ddadlau.

"Mae'n cyrraedd y pwynt lle mae rhywun yn mynd i daro'r trên, ond pwy fydd ar fai? Mae'r arwyddion yno'n dweud bod y goleuadau i fod i weithio.

"Os nad yw'r goleuadau'n gweithio, siawns y dylai fod rhyw ffordd arall o rybuddio pobl?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.