'Mae hi yno pob dydd': Rhun ap Iorwerth yn emosiynol wrth gofio ei fam mewn rhaglen newydd

'Mae hi yno pob dydd': Rhun ap Iorwerth yn emosiynol wrth gofio ei fam mewn rhaglen newydd

Mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad yn agored am ei ddiweddar fam mewn rhaglen ddogfen newydd.
 
Roedd Prif Weinidog Cymru yn hel atgofion am Gwyneth Morus Jones fel rhan o raglen ddogfen newydd ar S4C, sy’n rhoi mewnwelediad unigryw i’w dri mis cyntaf wrth y llyw.
 
“Mi ddoth hi’n thema yn y dyddiau wedi’r etholiad i bobl gofio am y rhai o’dd ddim yma a deud ‘Waw, mi fydden nhw ‘di bod mor falch o weld hyn’,” meddai.
 
“Mi oedd gen i y person hwnnw hefyd, wrth gwrs, a Mam oedd honno.”
 
Roedd Mrs Morus Jones a’i gŵr Edward Morus Jones yn aelodau gweithgar o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer.
 
Bu farw Mrs Morus Jones - cyn-lywydd Merched y Wawr, undeb athrawon UCAC a'r Mudiad Meithrin - ym mis Rhagfyr 2012, mater o fisoedd cyn i Mr ap Iorwerth gael ei ethol i’r Senedd fel aelod Ynys Môn.
Image
Gwyneth Morus Edwards yn annerch Merched y Wawr yn 2003. Llun: Merched y Wawr/Delyth Fletcher/Casgliad y Werin
Gwyneth Morus Jones yn annerch Merched y Wawr yn 2003 (Llun: Delyth Fletcher/Casgliad y Werin)
“Ma’ meddwl bod y person yna mor bwysig yn fy mywyd i ddim wedi bod yna yn rhywbeth dwi ‘di meddwl lot amdano fo, ond mae hi hefyd yno. Bob dydd,” ychwanegodd.
 
Yn y rhaglen ddogfen, Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf, mae chwaer arweinydd Plaid Cymru, Awen Iorwerth, hefyd yn adlewyrchu ar ddylanwad eu mam.
 
“O’dd Cymru, y Gymraeg yn bwysig iawn i Mam. O’dd o’n rhan ohoni erioed. Yr Eisteddfod, canfasio dros Blaid Cymru,” meddai.
 
“[Roedd y fuddugoliaeth yn golygu] bod hi ‘di cael rhoi rhan ohoni’i hun drwy Rhun.”
Image
Plaid Cymru ar risiau'r Senedd
Mr ap Iorwerth a'i gyd-aelodau yn dathlu buddugoliaeth Plaid Cymru yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai
Mae’r rhaglen hefyd yn dilyn Rhun ap Iorwerth yn yr oriau wedi etholiad Senedd mis Mai, wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ar hyd a lled Cymru.
 
Wrth ymateb i rai o’r canlyniadau cynnar, dywedodd y darpar Brif Weinidog: “Beth sydd wedi digwydd drwy’r dydd [wrth] ‘dan ni ‘di gweld canlyniadau’n dod i mewn, ydy, cryfhau a chadarnhau’r newid gwbl hanesyddol ‘dan ni ‘di gweld heddiw ‘ma yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.  
 
"Mae’r teimlad o gyfrifoldeb yn fawr.”
 
Bydd Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer o 10 Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.