Heddlu'r Met yn agor ymchwiliad troseddol i honiadau am gyllid tramor Reform UK
Mae Heddlu’r Met yn cynnal ymchwiliad troseddol i honiadau bod Reform UK wedi torri’r gyfraith mewn perthynas â chyllid tramor.
Daw’r ymchwiliad yn dilyn adroddiad gan Channel 4 News a Verbatim Investigations a gafodd ei ddarlledu yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met fod y llu wedi derbyn “nifer o adroddiadau yn ymwneud â rhoddion ac arolygon barn yn ymwneud â phlaid wleidyddol”.
Dywedodd fod ditectifs wedi asesu’r wybodaeth a dod i’r casgliad bod troseddau posib y mae angen ymchwilio iddyn nhw.
Bydd yr honiadau’n rhan o ymchwiliad sydd eisoes ar y gweill gan Dîm Ymholiadau Arbennig y Met i roddion i’r un blaid.
“Mae’r holl honiadau sy’n destun ymchwiliad yn ymwneud â throseddau posib o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000,” meddai.
“Mae ditectifs yn parhau i gydweithio’n agos â’r Comisiwn Etholiadol a Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth i’r ymchwiliadau gael eu gwneud.”
Ychwanegodd y llefarydd fod y ditectifs yn ceisio cael gafael ar ddeunydd fideo yn ymwneud â’r darllediad.
Yn ôl ymchwiliad Channel 4 News a Verbatim, cafodd tri arolwg barn a gomisiynwyd gan Reform UK eu hariannu drwy gwmni o’r Unol Daleithiau, ar gost o £32,500.
Roedd y tîm cudd yn esgus cynrychioli rhoddwr cyfoethog o America.
Camodd James Orr a Dan Jukes o’r neilltu o’u swyddi gyda’r blaid tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.
Mae’r blaid yn gwadu unrhyw ddrwgweithredu.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y blaid: “Mae Reform UK yn gwadu unrhyw ddrwgweithredu a bydd yn cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad.
“Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach tra bod ymchwiliad ar y gweill.”