Bachgen wyth oed o Wynedd yn dringo 15 copa uchaf Eryri mewn llai na 16 awr

Benji Jones

Mae bachgen wyth oed o Wynedd wedi cyflawni un o’r heriau mynydda anoddaf yng Nghymru ar ôl dringo 15 copa uchaf Eryri mewn llai na 16 awr.

Llwyddodd Benji Jones, sy’n ddisgybl blwyddyn pedwar yn Ysgol Rhiwlas, i gyflawni Her y 15 Copa ar ddydd Llun 31 Awst.

Mae’r her yn cychwyn wrth droed Grib Goch, cyn codi i’r Wyddfa a symud ymlaen i bum copa yn y Glyderau.

Mae’n gorffen yn y Carneddau, ble mae angen concro’r saith copa sydd yn weddill, cyn cerdded i lawr i’r llinell derfyn wrth droed Foel Fras.

Cychwynnodd Benji yr her am 05.30 mewn tywydd garw, yng nghwmni mynyddwyr profiadol ac aelod o dîm achub mynydd Llanberis.

“Ro’n i’n eitha pryderus yn y bore, yn ffarwelio hefo fo,” meddai mam Benji, Toni Howden, sydd hefyd ag 20 mlynedd o brofiad fel arweinydd mynydd.

Image
Benji a'r criw ar gopa Elidir Fawr
Benji a'r criw ar gopa Elidir Fawr

“Ond roedd fy ffrindiau’n anhygoel a dywedon nhw y byddai popeth yn iawn ac roeddwn i’n teimlo’n well wedyn.”

Cafodd Benji gyfle i gwrdd â’i fam a’i ffrindiau sawl tro ar hyd y ffordd er mwyn newid i ddillad sych a bwyta “digonedd o basta ac wyau” i gadw lefelau egni i fyny.

Ar ôl oriau maith o gerdded, fe wnaeth Benji a’r tîm fwynhau’r machlud yn y Carneddau cyn dringo’r pedwar mynydd olaf yn y tywyllwch.

Er iddyn nhw brofi ail gyfnod o wynt a glaw, fe lwyddodd i gwblhau’r daith gyfan mewn 15 awr a 58 munud – amser mae’r teulu’n ei gredu yw’r cyflymaf ar gyfer plentyn o’i oedran.

Ar ôl cerdded dros 50 cilometr mewn un diwrnod, sut oedd Benji’n teimlo ar ddiwedd y cyfan?

“Yn dda....ond wedi blino!” meddai wrth Newyddion S4C.

Image
Benji a'i fam Toni yn dringo Pen yr Ole Wen
Benji a'i fam Toni yn dringo Pen yr Ole Wen

“Doedd o ddim yn rhy anodd...ond mi oedd o dal yn anodd.”

Ychwanegodd Toni: “Mae o 'di neud yn wych, ac mewn tywydd garw hefyd. Aeth popeth yn dda iawn ar y diwrnod.”

Wrth egluro pam ei fod wedi dewis yr her yma, dywedodd Benji: “Oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddai’n hwyl ac roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer tîm achub mynydd Ogwen.”

Hyd yma, mae Benji wedi llwyddo i godi dros £1,800 i’r sefydliad ar ei dudalen GoFundMe.

Ychwanegodd Toni: “Dewisodd godi arian i dîm achub Ogwen am mai dyna yw ei hoff ran o Eryri, ac rydan ni’n gweld yr hofrennydd uwch ein pennau yn aml.

“Roedd o just eisiau cadw pobl yn ddiogel yn y mynyddoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.