Sir Benfro: Dod o hyd i gorff wrth chwilio am fachgen 15 oed oedd ar goll

Gwylwyr y Glannau Angle, Sir Benfro

Mae corff wedi’i ganfod wrth chwilio am fachgen 15 oed oedd wedi mynd i drafferthion ar draeth Marloes, Aberdaugleddau, ddydd Sul 30 Awst.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod, “ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg yma”.

Roedd y bachgen, sy’n dod o ardal Sir Efrog, ar ei wyliau pan aeth i drafferthion yn y dŵr ym Marloes.

Cafodd yr heddlu gais am gymorth gan Wylwyr y Glannau yn dilyn adroddiad bod tri o bobl mewn trafferthion.

Llwyddodd dau ohonyn nhw i achub eu hunain a dychwelyd yn ddiogel i’r lan, ond mae’r bachgen yn parhau ar goll.

Bu timau o Heddlu Dyfed-Powys, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI yn chwilio o’r awyr, ar y môr ac ar dir cyfagos.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Mawrth, 1 Medi bod ymateb amlasiantaeth i ddod o hyd i’r bachgen wedi dod i ben.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi treulio dros 22 awr yn chwilio yn y dŵr oddi ar ardal Marloes.

Roedd hofrennydd, cychod Gwylwyr y Glannau, yr heddlu a sawl cwch masnachol yn rhan o’r ymdrech.

Bu’r timau’n chwilio rhwng Aberllydan a Phenrhyn Santes Ann, gan gynnwys ynysoedd Sgomer a Sgogwm, ac yn y dŵr ym Marloes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.