Nant Peris: Carcharu dyn a gyfaddefodd iddo geisio siarad gyda merch ifanc ar-lein

Elwyn Jones

Mae dyn o Wynedd a gyfaddefodd iddo geisio siarad gyda merch ifanc ar-lein wedi cael ei garcharu.

Fe ymddangosodd Elwyn Jones, 64, o Nant Peris, i'w ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 4 Medi.

Roedd wedi cyfaddef yn gynharach i geisio cymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, dosbarthu ffotograff / ffotograff ffug anweddus o blentyn, ac i dri chyhuddiad o wneud ffotograffau / ffotograffau ffug anweddus o blentyn.

Roedd hefyd wedi cyfaddef i feddu ar bornograffi eithafol ac ar ddelwedd waharddedig o blentyn.

Ym mis Tachwedd 2025, fe ddechreuodd Jones siarad gyda rhywun yr oedd yn credu ei bod yn ferch 13 oed ar-lein.

Fe wnaeth annog cyfathrebu rhywiol rhyngddynt ac anfon delweddau anweddus iddi.

Nid oedd yn gwybod mai proffil ffug oedd hwn, a chafodd ei arestio gan yr heddlu.

Cafodd ei garcharu am dair blynedd a'i roi o dan orchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd (SHPO). Bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Megan Roberts: "Mae Jones wedi profi ei fod yn berygl i blant trwy geisio cyfathrebu'n rhywiol hefo geneth ifanc.

"Mae'n ffodus y tro hwn bod hwn yn broffil ffug ac nad oedd unrhyw blentyn yn dioddef ei ymddygiad ysglyfaethus.

"'Da ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i warchod pob un ifanc rhag y rhai sy'n ceisio eu cam-drin."

Dylai unrhyw un sydd hefo pryderon ynghylch camfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein roi gwybodaeth i'r heddlu neu'n ddienw trwy Crimestoppers, neu gysylltu ag asiantaeth gymorth, meddai'r heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.