Michael Sheen: Dim byd 'mor annheg' â'r honiadau am wenwyno cemegol yng Nghymru
Mae Michael Sheen wedi dweud wrth ASau nad ydy o "erioed wedi dod ar draws unrhyw beth mor annheg" â'r honiadau fod cymunedau yng Nghymru wedi cael eu halogi gan gemegau gwenwynig.
Ymddangosodd yr actor o Bort Talbot gerbron Pwyllgor Materion Cymru yn y Senedd yn San Steffan ddydd Iau i rannu tystiolaeth o raglen ddogfen ddaeth allan fis diwethaf.
Mae Buried with Michael Sheen, ddaeth allan ar y BBC, yn archwilio canfyddiadau dyn o'r enw Douglas Gowan, oedd yn credu fod pobl wedi eu gwenwyno ar ôl degawdau o fod mewn cysylltiad â chemegau gwenwynig yn yr amgylchedd.
Roedd Mr Gowan yn credu fod miloedd o dunelli o gemegau diwydiannol gwenwynig, a elwir yn bolyclorinedig biffenylau (PCBs), wedi cael eu gollwng mewn safleoedd ar draws Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Wrth siarad ag ASau ochr yn ochr â'r newyddiadurwyr Lucy Taylor a Dan Ashby, oedd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen, dywedodd Mr Sheen fod canfyddiadau'r ymchwiliad - gan gynnwys prawf gwaed a ddangosodd fod yr actor ei hun 82 math o PCB yn ei waed - yn "frawychus".
"Fe gytunais i gael fy mhrofi achos ro'n i'n meddwl, wel, dwi ddim wedi cael fy effeithio, dwi ddim wedi bod yn byw yn y cymunedau yma," meddai.
"Ond pa fo rhywun yn eistedd yna'n dweud wrtha' ti fod gen ti 82 PCB gwahanol yn dy waed, ac mai un ohonyn nhw ydy'r math mwy peryglus o ran carsinogenau, mae'n frawychus."
'Sarhad personol'
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo fo rannu "lleisiau" pobl yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio tra fod ganddo lwyfan i wneud hynny.
"I wybod fod cymunedau yn yr ardal dwi'n dod ohoni wedi cael eu dewis mewn rhyw ffordd i gael y stwff yma wrth eu hymyl am eu bod nhw methu cwffio'n ôl, achos y byddai'n cael ei guddio a'i gladdu - dwi'n ystyried hynny'n sarhad personol," meddai.
"Dwi erioed wedi dod ar draws unrhyw beth mor annheg â hyn."
Cafodd Michael Sheen gyfweld â Gowan ychydig cyn iddo farw yn 2018, yn 74 oed.
Roedd y gyfres yn cynnwys rhannau o’r cyfweliadau hyn yn ogystal â chyfarfodydd Mr Sheen gydag aelodau o'r cymunedau gafodd eu heffeithio, gwyddonwyr fforensig, ac arbenigwyr amgylcheddol.
Wrth siarad mewn sesiwn holi ac ateb am y rhaglen ddogfen ym mis Gorffennaf, dywedodd Sheen ei fod yn gobeithio y byddai'r gyfres yn “annog rhywbeth i ddigwydd.”
Dim cyfarfod â Rhun ap Iorwerth
Ond datgelodd hefyd o flaen ASau ddydd Iau nad oedd wedi cael cyfle eto i gyfarfod Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, i drafod y mater - er iddo estyn gwahoddiad iddo wylio'r rhaglen cyn iddi gael ei darlledu.
"Ro'n i'n meddwl y byddai'n gyfle da i'r Prif Weinidog, fel prif weinidog newydd yn dod i fewn, i fod yn rhan o hyn, i chwilio am atebion.
"Felly wnes i wahodd y Prif Weinidog i cymryd y cyfle edrych ar y rhaglen, i siarad efo ni amdani. Yn anffodus, chafodd y cynnig 'mo'i dderbyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Mr ap Iorwerth wedi "diolch i Michael Sheen am dynnu sylw at y pryderon" a bod hwn yn "fater pwysig" i'r llywodraeth.
"Rydyn ni'n ceisio trefnu dyddiad addas ar gyfer cyfarfod rhwng y Prif Weinidog a Michael Sheen cyn gynted â phosib i drafod y materion a godwyd a sut byddwn ni'n delio â nhw," meddai llefarydd.
"Mae hyn yn cynnwys cryfhau'r egwyddor mai'r 'llygrydd sy'n talu' tra'n parhau i wthio am gyfiawnder amgylcheddol drwy bledio'r achos am gyllid i gefnogi'r gwaith hwn yn uniongyrchol gyda Thrysorlys y DU."
Ychwanegodd y dylai'r cyllid hwn gael ei ddefnyddio "i ddelio â gwaddol gorffennol diwydiannol Cymru" gan gynnwys tipiau glo a thir sydd wedi ei halogi.