Sir Benfro: Ambiwlans arbennig yn caniatáu i dad â salwch terfynol fynd i briodas ei ferch

Bill Billing

Roedd tad â salwch terfynol wedi gallu mynd i briodas ei ferch diolch i wasanaeth ambiwlans arbennig sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.

Cafodd Bill Billing, 84 oed, ei ryddhau o’r ysbyty ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl cael diagnosis o ganser eilaidd ('secondary cancer') cam pedwar yn ei asgwrn cefn.

Roedd wedi cael diagnosis o ganser yn wreiddiol dwy flynedd ynghynt, ac o ganlyniad cafodd hanner un o’i ysgyfaint ei dynnu. Mae ganddo hefyd glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).

Oherwydd y ddau gyflwr, nid oedd Mr Billing, sy’n byw yng Nghil-maen (Monkton), yn Sir Benfro, wedi gallu gadael ei gartref ers dod yn ôl o’r ysbyty. 

Mae’n rhannu’r cartref â’i wraig Ginny, 75 oed.

Ond roedd yn benderfynol o fynd i briodas ei ferch Jennifer â’i phartner Callum Lewis yng Nghapel Bedyddwyr Bethel yn Noc Penfro ar 8 Awst.

'Dymuniad'

Cafodd ei deulu wybod am wasanaeth ‘Dymuniad’ Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy’n cynnig teithiau a gofal gan staff gwirfoddol i bobl sy’n agos at ddiwedd eu hoes.

Dywedodd Jennifer Lewis, 37 oed, o Ddoc Penfro, y byddai’r teulu’n “ddiolchgar am byth” am alluogi ei thad i fod yn bresennol pan briododd hi â Mr Lewis, 24.

“Roeddwn i wastad yn credu y byddai fy nhad yno rywsut pan fyddwn i’n priodi,” meddai.

“Roeddwn i’n dychmygu’r peth ac yn dal gafael ar y ddelwedd ohono yno, yng nghwmni teulu a ffrindiau.

“Pan glywon ni am Ambiwlans Dymuniadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe roddodd lygedyn ychwanegol o obaith i ni y byddai fy nhad yn gallu dod a fy ngweld yn priodi.

“Roedd Cheryl a Lily, criw’r Ambiwlans Dymuniadau, yn hollol anhygoel ac fe wnaethon nhw sicrhau bod fy nhad yn cael yr holl ofal a chymorth oedd ei angen arno.

“Fe wnaeth y bobl wych hyn roi o’u hamser eu hunain a gwirfoddoli i griwio’r ambiwlans. Fe wnaethon nhw dreulio oriau’n gofalu am fy nhad a’i gwneud hi’n bosibl iddo fod yno.”

Y cefndir

Mae’r cynllun Ambiwlans Dymuniadau yn cael ei ddarparu gan staff gwirfoddol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda chymorth tîm gofal lliniarol arbenigol y claf.

Ers ei lansio yn 2019, mae’r gwasanaeth wedi gwneud mwy na 150 o deithiau. Mae wedi cludo cleifion a’u hanwyliaid i gyngherddau, digwyddiadau chwaraeon, partïon pen-blwydd a thraethau, ymhlith lleoedd eraill.

Mae cyfanswm o 800 o weithwyr ambiwlans wedi cofrestru i ddarparu’r gwasanaeth yn eu hamser eu hunain. 

Maen nhw’n defnyddio cerbydau cludo cleifion nad oes eu hangen ar gyfer gwaith nad yw’n waith brys y diwrnod hwnnw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.