Môn: Rhyddhau pedwar o dan ymchwiliad mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ym 1994

Doreen Morris

Mae pedwar person wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes ar Ynys Môn ym 1994. 

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd pedwar person eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn rhan o adolygiad o lofruddiaeth dynes ar Ynys Môn 32 mlynedd yn ôl.

Cafwyd hyd i Doreen Morris, 64 oed, yn farw yn ei byngalo oedd wedi llosgi ar gyrion Caergybi ym mis Mawrth 1994.

Cafwyd Joseph Carl Westbury yn ddieuog o’i llofruddio yn 1995. Roedd hefyd wedi gwadu torri i mewn i’w chartref ar Mill Lane.

Bu farw o ganlyniad i hunanladdiad ym mis Mai 2016.

Fe ddechreuodd Tîm Adolygu Troseddau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru adolygiad o'r achos yn 2024.

O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, fe gafodd dyn a thair dynes, sydd i gyd o ogledd Cymru, eu harestio. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd ddydd Iau fod y pedwar wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad ar yr un diwrnod. 

Mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae teulu Mrs Morris wedi cael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf. 

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos i gysylltu drwy ffonio 101 neu drwy Crimestoppers, gan ddyfynnu Operation Epose, Heddlu Gogledd Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.