Dinasyddion yr UE i gael cymorth hyd at ddiwedd 2021
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn gallu parhau i gael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021.
Roedd y cynllun gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Daeth y Cynllun i ben ddiwedd mis Mehefin 2021, ond mae’r Swyddfa gartref yn dal i dderbyn ceisiadau hwyr “os oes sail resymol”.
Mae’r cyhoeddiad ddydd Mawrth yn cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yn parhau i allu cael cymorth am ddim gan y cwmni cyfreithiol arbenigol Newfields Law hyd at ddiwedd 2021.
Roedd y Swyddfa Gartref yn wreiddiol yn rhagweld y byddai angen i tua 70,000 o wladolion yr UE sy’n byw yng Nghymru wneud cais i’r Cynllun.
Ond, roedd data Awdurdodau Lleol yn amcangyfrif y byddai’n nes at 95,000 o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir.
Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod 96,800 o geisiadau wedi’u gwneud gan y rhai sy’n byw yng Nghymru, hyd at 30 Mehefin 2021.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod dinasyddion yr UE, yr ydym yn eu mawr werthfawrogi, yn gallu sicrhau’r statws angenrheidiol i aros yn y DU yn gyfreithlon.
“Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i ddarparu ystod o gymorth cyfrinachol am ddim i roi sicrwydd i ddinasyddion yr UE yng Nghymru fod croeso iddynt yma a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr y gallant aros, heb orfod pryderu.”