'Diwedd cyfnod yn hanes y Blaid Lafur yng Nghymru' yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones

Y Byd yn ei Le
Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar raglen Y Byd yn ei Le

 hithau’n dymor y cynadleddau gwleidyddol, mae rhaglen Y Byd yn ei Le yn ei hôl, lle bydd yr Athro Richard Wyn Jones yn pwyso a mesur y cyfan. Dyma rai o'r prif bynciau trafod...

Arolygon barn

Yn ôl arolwg barn diweddar ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, mae Plaid Cymru a Reform yn agos iawn at ei gilydd o ran cefnogaeth - gyda 30% o gefnogaeth y cyhoedd i Blaid Cymru a 29% i Reform UK.

Ond mae’r arolwg, gafodd ei gynnal ar y cyd gan ITV Cymru a YouGov, yn dangos bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur ar ei hisaf ers dechrau datganoli.

Yn ôl Richard: Mae’r arolwg barn yma yn arwyddocaol iawn - mae’n dangos bod cefnogaeth i Lafur wedi disgyn i lefelau hanesyddol isel. 

"Yn is, dwi’n meddwl, na’r hyn oedd y rhan fwyaf ohonon ni’n dychmygu fyddai’n bosib.

“Mae hyn wedi cael ymateb cryf iawn - mae’n cydfynd gyda’r data Prydeinig, sy’n dangos bod llywodraeth Keir Starmer mewn trafferth. Mae hyn yn golygu bod na fwy o sylw i’r arolwg barn yma na dwi’n gallu ei gofio erioed o’r blaen. 

"Ac mae’r syniad bod gen ti ddwy blaid bellach ar y brig sydd heb arfer bod yno yn cystadlu am yr oruchafiaeth a Llafur mewn trydydd safle gwael - ti’n gorfod pinsho dy hun!”

Darllenwch ganlyniadau'r arolwg yn llawn fan hyn.

Image
Jeremy Miles
Yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles

Jeremy Miles yn cyhoeddi na fydd yn sefyll yn 2026

Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles nad yw’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026. 

Meddai Richard: “Be’ sy’n fy nharo i fan hyn ydy bod yr hyn ddigwyddodd yn y frwydr rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething am yr arweinyddiaeth wedi bod yn ddiwedd pennod os nad yn ddiwedd cyfrol yn hanes y blaid Lafur yng Nghymru. 

"Mae hyn yn dynodi bod y prosiect ‘Llafur Cymreig’ oedd mor llwyddiannus rhwng 2000 a 2021 wedi dod i ben, o leia am y tro. 

“Os ti’n edrych ar y bobl oedd yn rhan o’r prosiect hwnnw, mi fyddan nhw bron i gyd wedi gadael gwleidyddiaeth erbyn mis Mai 2026. Ma hynny’n hanesyddol, oherwydd mae’r ffrwd honno oddi mewn i’r blaid wedi bod yn dominyddu ar lefel ddatganoledig ac wedi profi’n llwyddiannus iawn yn etholiadol. 

"Felly mae ‘na elfen bersonol gyda Jeremy Miles, ond mae ‘na elfen o’r hyn oedd o’n ei gynrychioli hefyd - fo oedd yn cario’r faner i’r duedd honno o fewn Llafur.”

Image
Nigel Farage
Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage

Cynadleddau’r pleidiau

Rydan ni eisoes wedi cael cynhadledd Reform UK, a dwi’m yn meddwl bod be’ ddywedwyd yn fanno wedi cael digon o sylw. 

"Roedd y ffaith bod Laura Ann Jones, yr unig aelod sydd gan Reform yn Senedd Cymru wedi codi’r cwestiwn ynghylch dyfodol datganoli yn arwyddocaol dwi’n meddwl. 

"Hyd yma, mae Nigel Farage wedi bod yn ofalus iawn i ddweud ‘Mae datganoli wedi setlo - da ni ddim isio trafod hyn'. Mae’r ffaith bod Laura Ann Jones wedi codi’r peth wir yn codi’r cwestiwn o ran ble mae Reform am fynd efo hynny.

“O ran Llafur, mae hi’n gynhaedledd bwysig i Keir Starmer. Mae o dan bwysau enfawr er ei fod o wedi ennill mwyafrif mor fawr llynedd, felly gawn ni weld be all Starmer wneud i ail-adeiladu ei hygrededd. 

"Dwi ddim yn disgwyl i unrhyw beth ar lefel Gymreig i ddod i’r amlwg yn y gynhadledd honno - ond cawn weld.”

Image
Keir Starmer
Keir Starmer yn ystod ymgyrch etholiadol 2024

Pan ofynwyd i Richard sut effaith allai canlyniad etholiad y Senedd ei gael ar y Prif Weinidog Keir Starmer, dywedodd:

“Os ydy Llafur yn colli Cymru (yn etholiad y Senedd) ar ôl canrif o ddominyddiaeth yma, mae hynny’n stori enfawr - oherwydd does ‘na unman yn y byd sydd efo’r un record o lwyddiant i un blaid ddemocratiaeth fel yng Nghymru. 

"Os mai Eluned Morgan a Keir Starmer ydy’r gwleidyddion sy’n ‘colli Cymru’, o safbwynt Eluned Morgan, dyna fydd yn diffinio ei gyrfa wleidyddol hi, ac mi fydd o’n cadarnhau amheuon llawer iawn yn y Blaid Lafur eu bod nhw wedi cefnogi’r dyn anghywir yn Keir Starmer.

“Mae hefyd yn ddiddorol pa mor wan ydy sefyllfa’r pleidiau eraill yng Nghymru - y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion. Mae’n edrych fel bod ‘na ddwy blaid sy’n wirioneddol bwysig - ydy Llafur yn gallu gwneud unrhyw beth i arafu’r cwymp?

“O ran Plaid Cymru, bydd Rhun ap Iorwerth yn chwilio am y cyfle i adeiladu ei hygrededd o, felly mae’n mynd i fod yn ddiddorol iawn be’ mae o’n mynd i fod yn ei ddweud, ond yn y pendraw, is-etholiad Caerffili’n bwysicach o ran be sy’n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru mewn unrhyw gynhadledd.”

Image
Rhun
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

Is-etholiad Caerffili 

Bydd is-etholiad ar gyfer sedd Caerffili yn y Senedd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref. Mae'n dilyn marwolaeth annisgwyl yr aelod Llafur o'r Senedd, Hefin David, fis Awst. 

“Mae ‘na lot fawr yn y fantol i dair plaid fan hyn.” Meddai Richard. 

“Mae Reform UK a Phlaid Cymru angen trio ennill. Os ydy Llafur yn llwyddo i ennill, mi fyddai pobl fel fi sy’n trafod arolygon barn ac ati yn edrych yn wirion dros ben. Ac mi fyddai hynny’n cryfhau sefyllfa Keir Starmer ac Eluned Morgan yn fawr iawn. 

"Ar y llaw arall, os ydy Llafur yn cael cosfa, dwi’n cymryd y bydd ‘na deimlad o argyfwng go-iawn yn y blaid wedyn, a dwi’n cymryd y byddai Reform neu Blaid Cymru’n siomedig iawn os ydyn nhw’n ail. 

"Mae na lot fawr yn y fantol - mwy nag unrhyw is-etholiad arall yng Nghymru yn fy mywyd i, yn bendant.”

Gwyliwch Y Byd yn ei Le nos Iau am 21.00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.