Arolwg barn: ‘Cefnogaeth Llafur ar ei hisaf yng Nghymru ers dechrau datganoli’
Arolwg barn: ‘Cefnogaeth Llafur ar ei hisaf yng Nghymru ers dechrau datganoli’
Mae arolwg barn newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd wedi awgrymu bod cefnogaeth y Blaid Lafur ar ei hisaf ers dechrau datganoli yng Nghymru.
Mae Plaid Cymru a Reform UK yn agos iawn ar y brig gyda 30% a 29% o gefnogaeth y cyhoedd yn ôl yr arolwg barn newydd gan YouGov ac ITV Cymru.
Mae hynny’n gynnydd o 4% yng nghefnogaeth Reform ers yr arolwg barn ddiwethaf gan YouGov ym mis Mai, tra bod Plaid Cymru yn sefyll yn yr unfan ar y brig.
Mae cefnogaeth y Blaid Lafur wedi syrthio -4% arall i 14%, gydag wyth mis i fynd nes yr etholiad nesaf ar 7 Mai 2026.
Bwriad pleidleisio yn y senedd (Model MRP YouGov MRP)
- Plaid Cymru 30% (-)
- Reform UK 29% (+4)
- Y Blaid Lafur 14% (-4)
- Y Ceidwadwyr 11% (-2)
- Y Democratiaid Rhyddfrydol 6% (-1)
- Y Blaid Werdd 6% (+1)
- Eraill 4% (+2)
Dan y system bleidleisio newydd a fydd yn cynnwys 96 o aelodau etholedig, mae’r arolwg yn awgrymu y bydd gan Blaid Cymru 38 o seddau, llai na’r nifer fyddai ei angen ar gyfer mwyafrif sef 49.
Fe fyddai hynny’n golygu bod angen clymbleidio neu dod i gytundeb gyda blaid neu bleidiau eraill er mwyn gallu llywodraethu.
Rhagamcan seddi:
• Plaid Cymru - 38
• Reform UK - 37
• Llafur - 11
• Ceidwadwyr - 6
• Democratiaid Rhyddfrydol - 3
• Gwyrdd – 1
Dywedodd Dr Jac Larner, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, bod yr arolwg diweddaraf yn dangos patrwm o symudiad i ffwrdd o’r prif bleidiau hanesyddol.
“Mae cefnogaeth Plaid Cymru wedi aros yn gymharol sefydlog dros y misoedd diwethaf gyda chefnogwyr blaenorol Llafur yn glynu wrth eu dewis newydd," meddai.
“Mae twf Reform UK wedi’i seilio’n bennaf ar bleidleiswyr Torïaidd blaenorol, ochr yn ochr â nifer llai ond nodedig o gyn-gefnogwyr Llafur.
“Yn y cyfamser, mae Llafur yn colli pleidleiswyr i sawl cyfeiriad – yn bennaf i Blaid Cymru a’r Gwyrddion, ond hefyd i raddau llai i Reform – sy’n dangos eu bod yn wynebu heriau ehangach wrth ddal eu clymblaid draddodiadol at ei gilydd.”
Holodd YouGov/Barn Cymru sampl cynrychioliadol o 1,232 o bleidleiswyr Cymru, 16 oed a hŷn, rhwng Medi 4-10 2025, ar gyfer ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd.