
Is-etholiad Caerffili: Pwy yw’r ymgeiswyr?
Dyma’r ymgeiswyr sy’n sefyll yn is-etholad Caerffili ar 23 Hydref 2025.
Mae'r is-etholiad yn cael ei chynnal yn dilyn marwolaeth Hefin David AS.
Nid yw pob plaid wedi cyhoeddi eu hymgeiswyr eto.

Y Ceidwadwyr Cymreig - Gareth Potter
“Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy newis gan ein haelodau i sefyll ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerffili yn isetholiad y Senedd," meddai.
“Ar ôl 26 mlynedd, mae Llafur Cymru wedi ein gadael ni i lawr dro ar ôl tro.
"O rieni sy’n poeni am ddiogelwch ysgolion i bensiynwyr sy’n cael trafferth archebu apwyntiadau gyda meddyg teulu neu berchnogion busnesau bach sy’n cael wynebu baich trethi annheg, mae hyn i gyd wedi’i greu gan Lafur ar ddau ben yr M4.
“Byddaf yn curo drysau, ac yn rhannu fy nghynllun ar gyfer Caerffili, ond yn bwysicaf oll, fe fyddaf yn gwrando arnoch chi.”

Llafur Cymru - Richard Tunnicliffe
“Yn Hefin, rydym wedi colli rhywun a oedd yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’n cymuned, hyd yn oed cyn iddo gael ei ethol fel ein AS," meddai.
“Roedd e’n ddyn a oedd bob amser yn chwilio am y gorau ym mhobl eraill ac am yr hyn yr oedden nhw'n gallu ei gyflawni, nid yr hyn na allen nhw ei wneud; ac roedd e’n annog, yn cefnogi ac yn grymuso pobl.
“Roedd ganddo ffydd ynof nad oedd gen i i ddechrau. Gyda chalon drom rwyf eisiau ei ad-dalu.”

Plaid Cymru - Lindsay Whittle
“Mae amgylchiadau'r isetholiad hwn, a gododd yn sgil marwolaeth Hefin David, wrth gwrs yn drist iawn ac rwy’n parhau i feddwl yn fawr am deulu ac anwyliaid Hefin,” meddai Lindsay Whittle.
“Mae pobl Caerffili yn haeddu cynrychiolydd lleol angerddol yn y Senedd. Rwy'n benderfynol o gynnig agenda gadarnhaol, i sichrau fod yr ardal hon yn cael bargen deg.”

Reform UK - Llŷr Powell
“Nid yw hwn yn isetholiad yr oedd yr un ohonom ei eisiau," meddai.
"Roedd Hefin yn aelod rhagorol o'r Senedd nad oedd erioed yn llwythol, ac roedd yn ymroddedig i'w gymuned ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym myd addysg.
“Mae cymunedau lleol Caerffili yn haeddu Aelod Senedd a fydd yn sefyll drostyn nhw ar ôl dros 26 mlynedd Lafur a Phlaid Cymru. Dim ond Reform UK sy'n cynnig cyfle am newid gwirioneddol.”