Heddlu’n parhau i ymchwilio i gyn-esgob a garcharwyd am droseddau rhyw
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i gyn-esgob a garcharwyd yn gynharach eleni am gam-drin bachgen yn rhywiol.
Cafodd Anthony Pierce, 84, a oedd yn esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, ei garcharu ym mis Mawrth am y troseddau.
Plediodd yn euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn gwrywaidd o dan 16 oed a gyflawnwyd tra roedd yn offeiriad plwyf yn Abertawe yn y 1980au.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod ymchwiliadau’n parhau i Pierce sydd bellach yn treulio dedfryd o 49 mis yn y carchar.
“Mae’r ymchwiliad i Anthony Pierce, a arweiniodd at ei gollfarn a’i ddedfrydu yn gynharach eleni, yn parhau,” meddai llefarydd ar ran y llu.
“Gan ei fod yn ymchwiliad trosedd rhyw gweithredol, byddai’n amhriodol i mi gynnig unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.”
Daeth i’r amlwg ar ôl i Pierce gael ei garcharu fod honiad ar wahân o gam-drin rhywiol yn ei erbyn wedi cael ei adrodd i uwch swyddogion yn yr Eglwys yng Nghymru ym 1993 ond mai dim ond yn 2010 y cafodd ei adrodd i’r heddlu, ac erbyn hynny roedd y dioddefwr wedi marw.
Yn ôl adroddoddiad gan y BBC roedd swyddogion hefyd yn ymchwilio i gyn-ficer dienw ynghŷn a honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol.
'Ffiniau aneglur'
Ar 27 Mehefin fe wnaeth y Gwir Parchedicaf Andrew John gyhoeddi y byddai’n ymddeol o’r rôl ar unwaith, ar ôl i bryderon diogelu yn ei esgobaeth gael eu hamlygu.
Dywedodd ddydd Sul mai ei benderfyniad i ymddeol ar unwaith oedd yr “ymateb cywir” iddo ef ac i’r eglwys.
Mae'n dilyn adolygiad diogelu yng Nghadeirlan Bangor, a nododd "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur" a bod "anlladrwydd yn dderbyniol".
Nid oes unrhyw awgrym bod y cyn-archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol.
Dywedodd crynodeb o adroddiad a rannwyd ar wefan yr Eglwys yng Nghymru fod adroddiadau hefyd am "iaith amhriodol, jôcs anweddus ac awgrymiadau yn y côr a adawodd rai yn teimlo'n anniogel ac wedi'u hymylu".
Daeth Mr John yn Esgob Bangor yn 2008 a chafodd ei ethol yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cael ei cais am sylwadau.