Y darlledwr Sulwyn Thomas wedi marw'n 82 oed
Mae'r newyddiadurwr a'r darlledwr Sulwyn Thomas wedi marw'n 82 oed, yn dilyn cyfnod byr o waeledd.
Yn un o leisiau mwyaf poblogaidd hanes darlledu diweddar yng Nghymru, fe gafodd ei eni yng Nghaerfyrddin ym mis Mehefin 1943, ac fe aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y dref.
Ar ôl gadael yr ysgol, fe gafodd ei dderbyn fel newyddiadurwr dan hyfforddiant gyda phapur newydd yr Evening Post yn Abertawe.
Wedi dysgu ei grefft yno, fe ymunodd â chwmni Television Wales and the West fel gohebydd yng ngorllewin Cymru ar gyfer rhaglen nosweithiol 'Y Dydd', gan barhau yn yr un rôl pan ddaeth HTV i fodolaeth.
Erbyn 1972, roedd yn un o'r rhai oedd yn gyfrifol am sefydlu gwasanaeth radio ar gyfer cleifion yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Yn 1977, gyda'r BBC yn ymestyn ei darpariaeth a'i chynnwys yn y Gymraeg, fe ymunodd Sulwyn Thomas â'r gorfforaeth fel un o gyflwynwyr y rhaglen 'Heddiw'.
Yn ddiweddarach aeth ymlaen i gyflwyno ei raglen ei hun, gyda 'Stondin Sulwyn' yn datblygu i fod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd BBC Radio Cymru yn ystod blynyddoedd cynnar yr orsaf.
Roedd 'Stondin Sulwyn' yn rhan annatod o arlwy Radio Cymru, a bu'n llwyfan i gannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i drafod pynciau'r dydd tan ddaeth diwedd y rhaglen yn 2002.
Yn ogystal â bod yn gyflwynydd radio poblogaidd, roedd Sulwyn Thomas hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach, gan gyflwyno 'Y Sioe Fach', rhaglenni S4C o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a'r rhaglen 'Ffermio' rhwng 1997 a 2004.
'Cyfaill triw i bawb'
Roedd ei ffydd yn bwysig iawn iddo, ac roedd wedi ei godi'n ddiacon yng nghapel yr Annibynwyr yn Y Priordy yng Nghaerfyrddin.
Mae ei weinidog yn yr eglwys honno, Y Parchedig Beti-Wyn James, wedi dweud eu bod wedi colli "cymwynaswr a chyfaill triw i bawb."
"Roedd yn ffyddlon i bob agwedd o fywyd y Priordy, ac yn ogystal â’i ddawn i gyfrannu’n gyhoeddus roedd hefyd yn ymwneud â nifer o ddylestwyddau tawel yn y cefndir, gan gynnwys agor y capel, gosod rhifau’r emynau ar y bwrdd, trefnu rotas ac yn croesawu wrth ddrws y capel bob bore a nos Sul ers blynyddoedd lawer.
"Roedd wrth ei fodd yng nghanol pobol, a phawb - o blant bach i bobol hŷn - wrth eu bodd yn ei gwmni ef.
"Roedd yn meddu ar hiwmor iach ac hefyd yn ddoeth ei eiriau a chan bawb barch i’w farn. Ond yn fwy na dim, roedd yn ffrind triw i bawb ac yn hynod o gefnogol i weinidogaeth yr eglwys.
"Bydd colled enfawr ar ei ôl," ychwanegodd Beti-Wyn James.
“Fe ddechreuodd Sulwyn efo’r papurau newydd yn ardal Caerfyrddin, lle ‘roedd yn newyddiadurwr cydwybodol dros ben. Ac yno fe wnaeth o’r cysylltiadau anhygoel ’na a sicrhaodd fod ganddo fynediad ar lif o straeon gwych gan bobl.
“Dwi’n cofio am eira mawr 1982, roedd Sulwyn wedi ymuno â’r BBC erbyn hyn wrth gwrs, a rhywsut roedd e wedi llwyddo i ddal y trên olaf un o Gaerfyrddin i Abertawe cyn i’r rheilffordd gau oherwydd yr eira.
"Felly fe lwyddodd i gyrraedd adeilad y BBC yn Abertawe, ac fe fuodd yntau, Alun Protheroe, Sian Thomas a finnau yn byw yn y stiwdio am wythnos. A dyna hwyl y cawson ni. Un o’r wythnosau gorau dwi’n gofio."
Ychwanegodd Richard Rees: “Roedd y ‘Stondin’ wedi dod yn rhan anatod o ddarlledu Cymraeg, ac roedd pawb yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu a hynny oherwydd yr hoffter mawr oedd at Sulwyn.
"Wrth gwrs, 'den ni’n cofio heddiw am y triciau ffwl Ebrill, pan lwyddodd Sulwyn i berswadio’r genedl fod Eisteddfod yr Urdd yn mynd i America ar un achlysur, ac ar achlysur arall roedd wedi llwyddo i ddarbwyllo pawb fod twnel am gael ei adeiladu o Abergwaun i Iwerddon, roedd Sulwyn wedi llwyddo i berswadio swyddogion y cyngor i fod yn rhan o’r jôc fawr, nes fod pawb wirioneddol yn credu.
“Yn wir, heb Sulwyn, fydde gen i ddim gyrfa, ac mae fy niolch yn aruthrol iddo, ac mae fy nghydymdeimladau dwysaf yn mynd at Glenys Ann a’r holl deulu."
Roedd Sulwyn a'i wraig Glenys yn gymwynaswyr mawr i'r iaith a bywyd eu cymuned, gyda'r ddau ar un adeg yn arwain aelwyd yr Urdd yng Nghaerfyrddin.
Roedd hefyd yn aelod o'r cwmni drama a gyflwynodd Dan y Wenallt, sef cyfieithiad Cymraeg o ddrama 'Under Milk Wood' gan Dylan Thomas, am y tro cyntaf.
Roedd Sulwyn Thomas hefyd yn weithgar wrth sefydlu Llyfrau Llafar Cymru.
Mae'r cynllun yn rhannu llyfrau sain Cymraeg a Saesneg i gyfoethogi bywydau'r deillion a'r rhai â nam ar eu golwg.
Yn stiwdio Radio Glangwili y cafodd y Papur Llafar ei recordio i ddechrau gyda Sulwyn yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwasanaeth.
Cafodd ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2003.
Mae'n gadael ei weddw Glenys, a dau o blant, Owain a Branwen.
Lluniau: Radio Glangwili, Y Parchedig Beti-Wyn James