Cyhuddo dyn wedi i gerbyd cloddio ddifrodi tafarn
Mae dyn 35 oed wedi ei gyhuddo o gyflawni nifer o droseddau, ar ôl adroddiadau fod cerbyd cloddio mawr wedi ei yrru tuag at dafarn yn Rhigos, Rhondda Cynon Taf nos Iau ddiwethaf.
Mae Daniel Morgan, o Rhigos, Aberdâr wedi ei gyhuddo o fwrgleriaeth, mynd â cherbyd, achosi difrod i eiddo, a gyrru cerbyd mewn modd peryglus.
Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o achosi difrod troseddol, gan beryglu bywyd mewn modd byrbwyll.
Cafodd Daniel Morgan ei gadw yn y ddalfa a bydd ei wrandawiad llys nesaf ar 5 Ionawr 2026.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am y digwyddiad yn nhafarn y New Inn, Smiths Avenue, Rhigos am 20.45 nos Iau.