Dedfryd o garchar wedi ei ohirio i Joey Barton am wneud sylwadau 'sarhaus iawn'
Mae cyn-chwaraewr pêl-droed Manchester City a Lloegr wedi ei ddedfrydu i chwe mis o garchar, a hynny wedi'i ohirio am 18 mis, am gyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn "sarhaus iawn".
Roedd Joey Barton, sy'n 43 mlwydd oed, wedi gwadu'r cyhuddiadau o wneud sylwadau "sarhaus iawn" ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithadol, oedd wedi eu hanelu at y darlledwr Jeremy Vine a'r sylwebyddion pêl-droed Lucy Ward ac Eni Aluko.
Ar 7 Tachwedd, fe gafwyd Barton yn euog o chwe chyhuddiad ar ôl i'r rheithgor yn Llys y Goron Lerpwl dderbyn dadl yr erlyniad fod Barton wedi "croesi'r llinell rhwng rhyddid barn a'r hyn oedd yn drosedd".
Mae Barton wedi ymddangos fel ffigwr dadleuol o fewn y byd pêl-droed dros y blynyddoedd, gyda'i farn am ferched yn sylwebu ar gemau pêl-droed dynion ymysg nifer o bynciau fwy diweddar mae'r cyn-bêl-droediwr wedi bod yn ei rannu mewn sylwadau ar-lein.
Fe wnaeth Joey Barton, sy'n wreiddiol o ardal Huyton yn Lerpwl, ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf dros Manchester City yn 2003, cyn mynd ymlaen i chwarae i glybiau yn cynnwys Newcastle United, Queens Park Rangers, Burnley, Glasgow Rangers a Marseille.
Fe enillodd y chwaraewr canol cae un cap yn unig dros Loegr, a hynny yn 2007.
Ar ôl ymddeol o chwarae pêl-droed, fe gafodd Barton, sy'n byw yn Widnes yn Sir Caer, gyfnodau fel rheolwr a hyfforddwr yn Fleetwood Town a Bristol Rovers.
Erbyn hyn, mae Barton yn bodlediwr poblogaidd, ac yn cyflwyno podlediad ei hun o'r enw 'Common Sense with Joey Barton' ac mae ganddo filiynau o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gosod y bar yn uchel
Yn ystod yr achos llys, fe eglurodd y Barnwr Andrew Menary KC, fod angen goresgyn "bar uchel" cyn y gallai'r rheithgor fod wedi ei gael yn euog o anfon negeseuon "sarhaus iawn".
"Nid yw'r gyfraith droseddol yn bodoli i gosbi moesau drwg, hiwmor miniog, nag unrhyw farn amhoblogaidd," meddai'r barnwr wrth aelodau'r rheithgor.
"Dim ond pan fydd y cynnwys y sylwadau mor eithafol, israddol neu ddad-ddynol fel y byddai cymdeithas gyfan yn dweud 'mae hynny'n mynd yn rhy bell, mae hynny'n croesi llinell yr hyn y gallwn ei oddef' y mae angen i'r gyfraith yn ymyrryd," ychwanegodd y barnwr.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar wedi ei ohirio, fe ddedfrydwyd Barton hefyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned, yn ogystal â thalu costau'r erlyniad o fwy na £23,000, ac mae ganddo 28 diwrnod i dalu.
Er fod y gwrandawiad dedfrydu ddydd Llun yn ymwneud â Barton yn cyhoeddi sylwadau "sarhaus iawn" ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n fater troseddol, mae hefyd wedi bod yn destun camau cyfreithiol yn y llysoedd sifil.
Yn ystod yr achos llys troseddol, fe glywodd y rheithwyr fod Joey Barton wedi cytuno ym mis Mehefin 2024 i dalu iawndal o £75,000 i Jeremy Vine am sylwadau enllibus ynghyd â thalu costau cyfreithiol Mr Vine.
Dyfarnodd barnwr yn yr Uchel Lys bryd hynny fod sylwadau Barton am gyflwynydd y BBC ar X yn rhai enllibus.
Clywodd Llys y Goron Lerpwl hefyd fod Barton wedi ymddiheuro i'r darlledwr ar ei gyfrif X ym mis Mehefin 2024.
(LLUNIAU: PA MEDIA)