Gethin Thomas i’w anrhydeddu'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru / Aled Llywelyn
gethin thomas.jpg

Bydd cyn-gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei anrhydeddu yn Gymrawd y Brifwyl yn ystod Eisteddfod Y Garreg Las 2026.

Yn ôl y Brifwyl, dod yn Gymrawd yw’r anrhydedd fwyaf a roddir i unigolion am oes o wasanaeth i’r Eisteddfod.

Wedi marwolaeth D Hugh Thomas, Cymrawd yr Eisteddfod, cyhoeddodd Nic Parri, Llywydd Llys yr Eisteddfod y bydd Gethin Thomas yn cymryd ei le fel un o’r pum Cymrawd.

Cyhoeddodd yr Eisteddfod hefyd y bydd Sian Eirian, cyn-gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau yn olynu Gethin Thomas fel Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod o fis Ionawr 2026.

Image
Sian Eirian
Sian Eirian

Daeth cyfnod Heulwen Jones, Is-gadeirydd y Cyngor i ben yng nghyfarfod olaf y Cyngor yn 2025 gyda’r cyn aelod Seneddol, Elfyn Llwyd yn ymgymryd â’r rôl o 2026 ymlaen.

Clywodd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol i’r wŷl yn Wrecsam ym mis Awst fod ymysg y “mwyaf llwyddiannus ers blynyddoedd.”

Yn ôl yr Eisteddfod, roedd y niferoedd a ymwelodd â’r Eisteddfod am y tro cyntaf yn Wrecsam wedi dyblu ers 2016 pan gafodd yr ŵyl ei chynal ger y ffin ddiwethaf yn y Fenni, Sir Fynwy.

"Ymwelodd mwy o siaradwyr Cymraeg newydd â’r Eisteddfod eleni nag erioed o’r blaen gyda 17% o’r holl ymwelwyr yn nodi fod ymweld â’r Eisteddfod wedi eu helpu i ddysgu Cymraeg neu eu hysbrydoli i ddysgu’r iaith," meddai eu datganiad 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026, Y Garreg Las, yn cael ei chynnal ar gyrion Tref Aberteifi yn Llantwd, 850 o flynyddoedd ers i’r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal ym muriau Castell Aberteifi.

Prif lun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru / Aled Llywelyn

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.