Prifysgol Caerdydd: Gostyngiad yn nifer y swyddi sydd dan fygythiad
Prifysgol Caerdydd: Gostyngiad yn nifer y swyddi sydd dan fygythiad
Mae nifer y swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gostwng o 400 i 138 meddai'r brifysgol.
Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth y brifysgol lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig "gyda’r bwriad o ddiogelu ei dyfodol hirdymor."
Fel rhan o’r cynigion, fe ddywedodd y Brifysgol y byddai’n ystyried torri 400 o swyddi, yn ogystal â chau sawl rhaglen, gan gynnwys nyrsio, cerddoriaeth ac ieithoedd modern.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda staff a ddaeth i ben ar 6 Mai, fe ddywedodd y brifysgol fis diwethaf fod y nifer o swyddi dan fygythiad wedi gostwng i 286.
138 o swyddi yn y fantol
Ond mewn llythyr at staff fore Iau, dywedodd Is-ganghellor y sefydliad, Yr Athro Wendy Larner, bod y nifer bellach wedi gostwng i 138, ar ôl i 133 o staff adael y brifysgol, naill ai drwy ddiswyddo gwirfoddol neu am resymau eraill.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi derbyn “cynigion amgen” gan staff i leihau costau, gan gynnwys cynyddu’r niferoedd o fyfyrwyr sydd yn cael eu haddysgu gan rhai adrannau.
Fe fydd 40 yn llai o swyddi yn cael eu torri o’r cwrs Nyrsio yn ogystal, a hynny yn dilyn tro pedol wedi'r cynnig i gau’r adran yn gyfan gwbl ar gychwyn yr ymgynghoriad ym mis Ionawr.
Daeth cadarnhad hefyd nad oedd y Brifysgol yn ystyried torri swyddi pellach yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Feddygaeth, yr Ysgol Biowyddorau, a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yn dilyn diswyddiadau gwirfoddol gan rhai staff.
Mae uno rhai ysgolion hefyd yn rhywbeth sydd yn cael ei ystyried.
Mae disgwyl i’r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ar 17 Mehefin.
‘Cyfnod anodd iawn’
Yn y llythyr, dywedodd Ms Larner na fyddai’r diswyddiadau gorfodol yn cael eu gwneud eleni, ond yn cael eu gwneud “dros nifer o flynyddoedd.”
“Hoffwn gydnabod bod y tri mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i nifer o gydweithwyr, ac rwy’n deall maint y gofid a'r pryder sy'n parhau i gael eu profi gan ein cymuned wrth inni ystyried ein cynaliadwyedd academaidd ac ariannol," meddai.
“Gwn nad yw hyn yn cynnig llawer o gysur i'r rhai ohonoch y mae eich swyddi'n parhau i fod mewn perygl.
“Rydym bellach wedi ymrwymo i beidio â dileu swyddi’n orfodol yn 2025, ac wedi ailgadarnhau mai’r dewis olaf bydd dileu swyddi gorfodol yn y dyfodol.
“Rydym yn parhau i adolygu'r Ysgolion sy'n dal i fod yng nghwmpas yr ymgynghoriad gyda'r bwriad o dynnu cymaint o staff â phosibl ohono.”
Daw'r ymgynghoriad yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled y wlad, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd.