Newyddion S4C

Prifysgol Caerdydd i gael gwared â 400 o swyddi academaidd

Prifysgol Caerdydd i gael gwared â 400 o swyddi academaidd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau eu bwriad i gael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad.

Mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig "gyda’r bwriad o wireddu ei hamcanion a diogelu dyfodol hirdymor y Brifysgol."

Fe fydd yr ymgynghoriad yn para am 90 diwrnod.

Mae disgwyl i’r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin 2025. 

Daw'r newyddion yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled y wlad, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd.

Mae'r brifysgol yn edrych am doriadau mewn adrannau yn cynnwys nyrsio, cerddoriaeth ac ieithoedd modern - gan ystyried uno rhai adrannau hefyd.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys: 

  • Gostyngiad o oddeutu 400 swydd llawn amser (7% o'r gweithlu) yn nifer y staff academaidd, gan "ddiswyddo’n orfodol dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol gwneud hynny." 
  • Creu Ysgol y Dyniaethau Byd-eang drwy uno y Gymraeg, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth,  a’r elfennau sy’n weddill o Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern.
  • Cau pynciau a rhaglenni mewn Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio, a Chrefydd a Diwinyddiaeth. 
  • Creu Ysgol y Gwyddorau Naturiol (uno Cemeg, Gwyddorau’r Ddaear a Ffiseg), Ysgol Gwyddor Data, Cyfrifiadura a Mathemateg (uno Cyfrifiadureg a Mathemateg), Ysgol y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (uno’r Gwyddorau Cymdeithasol, Daearyddiaeth a Chynllunio) .

 

Image
Caerdydd
Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner

Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynnig i staff i dderbyn diswyddiadau gwirfoddol. Fe ddaeth y cyfnod o wneud cais i ben ym mis Medi.

Y gred yw bod dros 150 o aelodau staff y brifysgol wedi cynnig eu henwau ar gyfer derbyn diswyddiadau gwirfoddol bryd hynny.

'Sefyllfa ariannol ansicr'

Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner: “Mae’n amlwg bod nifer o brifysgolion yn wynebu sefyllfa ariannol ansicr, yn enwedig o ystyried bod ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol yn gostwng a bod pwysau cynyddol o ran costau, sy’n golygu bod gofyn addasu er mwyn goroesi.

“Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gwybod nad yw hi bellach yn bosibl inni barhau fel yr ydyn ni. Mae ein strategaeth newydd, sydd wedi’i chreu ar y cyd â’n cymuned, yn gosod dyfodol uchelgeisiol i’n Prifysgol sy’n gydweithredol, yn arloesol ac yn cynnig gwerth i Gaerdydd, i Gymru a’r byd yn ehangach.

“Mae diogelu’r dyfodol hwnnw, mewn cyd-destun o gwtogi ariannol, yn golygu bod angen inni wneud penderfyniadau anodd i wireddu ein hamcanion o fireinio ein haddysg a’n hymchwil, yn ogystal â gwella profiad staff a myfyrwyr."

Ychwanegodd: “Rwyf am bwysleisio mai cynigion yw’r rhain ac y bydd ein cymuned – yn fewnol ac yn allanol – yn cael llywio ein cynlluniau terfynol drwy ymgynghoriad ffurfiol. Bydd maint yr her yn parhau, ond bydd y ffordd yr awn i’r afael â hi yn sicr yn cael ei mireinio a’i datblygu dros y 90 diwrnod nesaf.” ​ 

Problem i sawl prifysgol

Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans wrth raglen Newyddion S4C bod cyfuniad o ffactorau yn golygu bod her ariannol sylweddol yn wynebu nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru.

Yn ôl yr Athro Jones-Evans, roedd sawl prifysgol wedi bod yn or-ddibynnol ar ddenu myfyrwyr o dramor yn ddiweddar.

Roedd ychydig dan 70,000 o fyfyrwyr tramor wedi sicrhau lle ar gwrs israddedig yn y DU yn 2024 - gostyngiad o 2.3% ar y flwyddyn flaenorol, yn ôl ystadegau swyddogol.

Roedd newidiadau i fisas gan Lywodraeth y DU hefyd yn golygu na allai teuluoedd fyw yng Nghymru tra bod myfyrwyr yn astudio, gan olygu bod y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.