Caerfyrddin: Prifysgol yn gwerthu Canolfan Gymraeg 'Yr Atom'

Newyddion S4C
Yr Atom wide.jpg

Mae Canolfan Gymraeg Caerfyrddin gafodd ei hagor gyda chymorth grant o £355,000 o lywodraeth Cymru wedi cael ei rhoi ar werth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Yr Atom, gafodd ei hagor yn 2015 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, ar y farchnad am £350,000. 

Mae Cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, wedi disgrifio'r penderfyniad i ddefnyddio dros £2m o arian cyfalaf y llywodraeth i brynu adeiladau ar gyfer canolfannau Cymraeg fel "gwastraff arian." 

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr Atom wedi creu "cyfraniad pwysig" ond yn ôl y Brifysgol mae "defnydd o'r ganolfan wedi gostwng" ers y pandemig.

Ychwanegodd y Brifysgol ei bod hi'n wynebu "heriau ariannol" a nid yw'n "medru parhau i ariannu'r ganolfan." 

Fe fynegwyd pryder am ddiffyg gweithgareddau Cymraeg yn yr Atom yn 2018, gwta dair blynedd ar ôl ei hagor, ac fe godwyd cwestiynau bryd hynny am ddyfodol hir dymor y canolfannau Cymraeg a ariannwyd gan lywodraeth Carwyn Jones.

Mewn hysbyseb ar ei gwefan, mae cwmni Savills yn dweud bod yr Atom yn "adeilad deulawr atyniadol sydd yn cynnig cyfleon buddsoddi sylweddol".

Ar y pryd, dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mai'r nod wrth greu'r Atom oedd sicrhau bod y Gymraeg "i'w gweld a'i chlywed yn amlach ar hyd a lled y dre".

Image
Meirion Prys Jones.jpg
Meirion Prys Jones, cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith

Wrth ymateb i'r newyddion bod trydedd canolfan iaith wedi cau, dywedodd cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones bod penderfyniad y llywodraeth i roi £2.5m tuag at y gost o brynu ac addasu adeiladau, er mwyn agor canolfannau Cymraeg wedi bod yn "wastraff arian."

"Mae'n wastraff arian oherwydd mewn gwirionedd wrth fynd ati i wneud y math yma o ddatblygiad, mae angen nifer o bethau yn eu lle cyn bod hynny yn werth ystyried," meddai.

"Mae angen cefnogaeth o'r gymuned. Mae angen cefnogaeth gan sefydliad fel y cyngor sir a hefyd mae angen sicrhau bod yna bobl sydd yna sydd yn arbennig o frwdfrydig dros symud y cyfan yn ei flaen. 

"Heblaw bod yr elfennau hynny yn eu lle mae taflu arian at sefyllfa fel sydd wedi digwydd yn yr achos yma mewn gwirionedd yn arwain falle at fwy o niwed yn y pendraw nac yn y tymor byr. 

"Heb y gefnogaeth gymunedol, heb y sicrwydd bod yr arian yn parhau dros nifer o flynyddoedd byddai'r math yna o fuddsoddiad ddim gwerth y buddsoddiad. Yn codi gobeithion yn hytrach na chyflawni dim."

'Ddim yn syndod'

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nad oedd "cymorth ariannol hirdymor i gynnal y ganolfan" a bod y Brifysgol wedi "darparu arian cyfatebol a chynnal yr Atom a'i waith ers 2015".

"Ers y pandemig, mae'r defnydd o Yr Atom wedi gostwng. Nid yw'r ganolfan bellach yn denu'r ystod o denantiaid, gweithgareddau nac ymwelwyr yr oedd yn arfer ei gwneud. 

"Mae sawl tenant wedi gadael yr adeilad neu ar fin gadael yr adeilad. Mae nifer y sefydliadau allanol sy'n defnyddio'r adeilad hefyd wedi gostwng. 

"Ar yr un pryd, mae costau cynnal a chadw a sicrhau adnoddau'r adeilad wedi cynyddu.  O ystyried yr heriau ariannol cwbl hysbys sy'n wynebu'r sector addysg uwch, ac fel elusen sy'n dibynnu i raddau helaeth ar ffioedd myfyrwyr am ei hincwm, nid yw'r Brifysgol yn gallu parhau i ariannu’r ganolfan."

Doedd neb o'r Brifysgol yn fodlon cael eu holi.

Image
Wynford James
Wynfford James

Dywedodd Wynfford James o Gymdeithas yr Iaith "nad oedd hi'n syndod" iddo bod yr Atom wedi cau a bellach ar werth a bod yna ddyhead gan y llywodraeth i ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad yn 2011 oedd wedi dangos gostyngiad o 6.4% y yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

"Fe sefydlwyd y ganolfan gyda grant cyfalaf o'r llywodraeth, yn dilyn sgwrs genedlaethol dan arweiniad Carwyn Jones a phan oedd ganddo bortffolio yr iaith Gymraeg ac yn Brif Weinidog," meddai.

"Roedd y weinyddiaeth yn awyddus iawn i gael ei gweld yn gwneud rhywbeth. D'wi ddim yn meddwl bod y polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei ruthro, ac o ganlyniad, mae'n amlwg bod y polisi yn ddiffygiol a'r llywodraethu yn wantan."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe grewyd "cyfleusterau cymdeithasol, hamdden a busnes i'r gymuned gyfan" gyda'r arian a fe wnaed "cyfraniad pwysig" gan yr Atom.

Dywedodd y Brifysgol ei bod hi'n "parhau yn gwbl ymrwymiedig i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerfyrddin" a bod nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr Egin.

Yn ôl Wynfford James, roedd yr Atom wedi "ceisio bod yn bopeth i bawb" yn hytrach na chanolwbyntio a rai agweddau penodol ac mae'n cwestiynu "a oedd angen canolfan o'r math yma mewn tref mor Gymreigaidd a Chaerfyrddin?" 

Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd "gweledigaeth tymor hir" ar gyfer y ganolfan.

Mae canolfannau y Lle yn Llanelli a'r Hen Lyfrgell eisioes wedi cau. 

Mae Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe yn parhau ar agor, ynghyd â chanolfan Popty ym Mangor sydd dan ofal Menter Iaith Gwynedd. 

Mae statws rhai o'r canolfannau eraill yn aneglur er gwaetha ymdrechion gan Newyddion S4C i gysylltu gyda'r sefydliadau wnaeth dderbyn y grantiau.

'Ffynnu'

Doedd Ysgrifennydd Cabinet y Gymraeg, Mark Drakeford, ddim ar gael i'w holi.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg, Heledd Fychan AS: "O fewn y 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cymryd camau i wella mynediad at addysg Gymraeg, a byddwn yn cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol drwy ddechrau’r broses o ddeddfu ar gamau gwarchod newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uchel."

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru: "Rydym ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu ac yn ffynnu, a byddem yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod hynny yn digwydd."

Yn ôl y Blaid Werdd, fe fyddan nhw yn "defnyddio polisi cynllunio a thai i gefnogi cymunedau cynaliadwy sy’n siarad Cymraeg. Fe fydd y Blaid Werdd hefyd yn sicrhau bod dysgu Cymraeg am ddim ar gael i bobl o bob oed.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Byddwn yn hyrwyddo ehangu parhaus o addysg cyfrwng Cymraeg, gan roi cyfle i bobl ifanc ddod yn hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg a chael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu dysgwyr sy’n oedolion."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan weddill y prif bleidiau gwleidyddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.