Sgandal Swyddfa’r Post: 'Maen nhw’n disgwyl i ni anghofio be da ni wedi mynd drw'

Newyddion S4C
Susan a Cled Jones
Susan a Cled Jones
Mae cyn-is-bostfeistr a gafodd ei gyhuddo o ddwyn yn ystod sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post yn dal i aros am iawndal - 20 mlynedd ar ôl iddo sylwi gynta' fod problemau gyda’r systemau cyfrifiadurol. 
 
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cled Jones, 73 oed: “‘Da ni wedi cau y Post ers dros chwe mlynedd a does 'na dal ddim byd wedi cael ei neud i ni.” 

Daw ei sylwadau ar ôl i adroddiad diweddar ddatgelu bod miloedd yn dal i aros am iawndal llawn o ganlyniad i systemau diffygiol Horizon.  

Bu rhaid i Cled dalu dros £43,000 o’i arian ei hun i dalu am golledion honedig er mwyn osgoi mynd i’r carchar. Dywedodd fod ei gyfreithwyr yn dal i weithio ar ei gais terfynol.
 
Mae Swyddfa’r Post yn dweud eu bod yn prosesu ceisiadau "mor gyflym â phosib," gyda £882 miliwn eisoes wedi’i dalu.

Stori Cled 
 

Mae Susan Jones, gwraig Cled newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 70, ond doedd fawr o hwyliau dathlu arni. 

Mae’r straen o weld ei gŵr yn parhau i frwydro dros gael iawndal yn pwyso’n drwm. 

“Dwi jest yn teimlo dyda ni ddim yn cyfri ddim mwy,” meddai. “Maen nhw isio ni gael llond bol a just give up.

Yn ôl Cled: "Maen nhw’n disgwyl i ni anghofio be 'da ni wedi mynd drw', ond nawn ni ddim neud hynna.” 

Yn 2004 penderfynodd Cled gymryd y fasnachfraint yn swyddfa'r post Bethel, ger Caernarfon, ond mi drodd y swydd yn “hunllef".

Dros gyfnod o 14 mlynedd, mi dalodd Cled dros £43,000 o'i arian ei hun i gyfrifon Swyddfa’r Post gan fod systemau cyfrifiadurol Horizon yn dweud fod pres ar goll. 

Mi ddechreuodd sylwi ar y diffygion yn 2006. Penderfynodd dalu’r cwbl er mwyn osgoi mynd i’r carchar, ond tydi o ddim wedi cael iawndal llawn.

Mae’r peth 'ma yn mynd ymlaen mor hir,” meddai.  

"Sa Swyddfa’r Post wedi gallu sortio fo lot cynt."

Image
Cled a Susan Jones
Yn 2024, cafodd tlws arbennig ei gyflwyno i Cled a Susan gan rai o drigolion Bethel i ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i’r gymuned

Mae hi’n ddwy flynedd ers i mi gyfarfod Cled a Susan ddiwetha. Ar y pryd, roedd drama deledu newydd wedi dod â’r sgandal Swyddfa Post yn ôl i’r amlwg, ac mi roedd Cled yn obeithiol am ei gais am iawndal. Erbyn hyn, mae o’n dweud fod mwy a mwy o gwestiynau yn cael eu gofyn am y cais.

“Dwi’n cael cwestiynau drwy’r amser” meddai. "Maen nhw’n gofyn rŵan pethau yr un peth mewn ffordd, ond mewn ffordd wahanol.” 

“Mae o fatha bo nhw’n trio tripio chdi fyny, ond fedri di ddim tripio fyny os ti’n deud y gwir.”

Mae’r straen ar iechyd meddwl y ddau wedi bod yn aruthrol, yn enwedig Susan. “Dwi dal i gael abuse am hyn,” meddai. “Dwi dan ofal doctor rŵan.” 

Mae hi’n dweud fod rhai pobol yn y pentref yn dal i’w chyhuddo o fod wedi dwyn. “Dwi jest wedi cael digon,” ychwanegodd.  

Nid Cled a Susan ydi’r unig rai.

Mae Seema Misra, a gafodd ei charcharu ar gam tra roedd hi'n feichiog, yn dal i aros am arian hefyd, bum mlynedd ar ôl i’w heuogfarn gael ei ddiddymu.

Bu farw Parmod Kalia o Dde Llundain yr wythnos ddiwetha, heb gael iawndal llawn.

Pam yr oedi?  

Mae adroddiad diweddara’r Pwyllgor Busnes a Masnach yn nodi fod diffyg atebolrwydd gan gwmni Fujitsu yn broblem fawr. Tydyn nhw heb gyfrannu'n llawn at gostau'r sgandal eto. 

Mae’r pwyllgor hefyd yn cyfeirio at oedi, gwallau gweinyddol a chynigion iawndal sydd wedi'u tanbrisio. 

Mae Cled yn un enghraifft o hynny. Er ei fod wedi cael cynnig ariannol, mae ei gyfreithiwr yn deud nad ydi’r swm yn agos at yr hyn y mae o wedi ei golli dros y blynyddoedd. 

Loss of earnings am yr holl flynyddoedd am ein bod ni wedi gorfod gorffan yn gynt nag oeddan ni fod. Mae o jyst yn mowntio a mowntio,” meddai. 

“Ond does yna ddim un ceiniog yn mynd i cyfro y blynyddoedd da ni wedi golli.

“Does na’m byd yn cyfri nagos am y golled am yr ugain mlynedd.”

Yn ôl Swyddfa'r Post mae pethau yn symud ymlaen gyda "87% o geisiadau cymwys Cynllun Diffyg Horizon wedi derbyn cynnig.”  

Maen nhw’n deud fod "£882m wedi'i dalu drwy'r cynllun yn barod,” a’u bod yn "prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib."

Mae Cled a Susan yn dweud eu bod nhw’n gwybod y byddai’r frwydr yn hir, ond doeddan nhw ddim yn disgwyl iddi fod mor hir â hyn.

“Dim ond gwitchiad i gael atebion fyddwn ni rŵan,” meddai Cled, “dim ond hynny fedrwn ni neud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.