Pedwar dyn yn gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr
Mae pedwar dyn wedi gwadu llofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr, Sir Caerffili.
Fe blediodd Ricardo Elliot, 27 oed, Connor Palfrey, 24 oed, Elexi Manny, 24 oed, a Georgie Mears, 18 oed, yn ddi-euog i'r cyhuddiad o lofruddio Tristan Kerr, 17 oed.
Ymddangosodd y pedwar diffynnydd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar gyfer gwrandawiad ple, gan siarad i gadarnhau eu henwau, dyddiadau geni, cyfeiriadau a'u pledion yn unig.
Mae'r Barnwr Tracey Lloyd-Clarke eisoes wedi pennu dyddiad ar gyfer achos llys, sef 3 Awst, gyda disgwyl iddo bara chwe wythnos.
Fe fydd gwrandawiad adolygu cyn-achos yn cael ei gynnal ar 24 Gorffennaf.
Cafodd y pedwar dyn eu cadw yn y ddalfa.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Abertridwr, Sir Caerffli am tua 17:45 ar 5 Chwefror eleni yn dilyn adroddiadau fod bachgen wedi dioddef anaf difrifol.
Bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.
