Amgueddfa Sain Ffagan 'yr atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd yng Nghymru'
Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ger Caerdydd oedd atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd Cymru y llynedd yn ôl ffigyrau newydd.
Dywedodd Cymdeithas Prif Atyniadau i Ymwelwyr (Alva) fod 570,207 o bobl wedi ymweld â'r amgueddfa y llynedd, er fod hyn yn ostyngiad o 5% o gymharu â nifer yr ymwelwyr yn 2024.
Roedd yr amgueddfa yn safle 77 allan o 409 ar y rhestr gan Alva o atyniadau ar draws y DU.
Roedd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn safle rhif 124, gyda 356,021 o ymwelwyr y llynedd, gyda Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy yn gweld 278,677 o ymwelwyr y llynedd.
Fe welodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe 245,946 o bobl yn ymweld, gan olygu ei bod hi yn safle rhif 174 ar y rhestr cenedlaethol.
Amgueddfa Wlân Cymru yn Sir Gâr oedd yr isaf ar y rhestr o Gymru gyda 24,915 o ymwelwyr, ond fe welodd yr amgueddfa gynnydd o 22% o gymharu â nifer yr ymwelwyr yn 2024, sef 20,503.
Yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain oedd atyniad mwyaf poblogaidd y DU y llynedd, gyda 7.1 miliwn o ymwelwyr, sef cynnydd o 13% 0 2024.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod cyfanswm o 165.2 miliwn o ymweliadau i'r 409 atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd yn y DU y llynedd.
Ond mae'r ffigwr yn parhau 7% yn is na'r lefelau cyn pandemig Covid-19 yn 2019.
Dywedodd cyfarwyddwr Alva Bernard Donoghue fod y gostyngiad yn rhannol oherwydd bod nifer yr ymwelwyr o Tsieina ond tua 80% o'r niferoedd a gafodd eu gweld cyn y pandemig.
Dywedodd hefyd fod penderfyniad y Llywodraeth Geidwadol yn 2020 i roi diwedd ar siopa di-dreth i ymwelwyr sy'n cyrraedd y wlad hefyd wedi cyfrannu.
"Rydym ni bellach yn gweld effaith hynny yn nhermau'r ffaith nad yw'r DU ar dop y rhestr ar gyfer pobl o Tsieina," meddai.
"Mae gennym ni 80% o'r ymwelwyr o Tsieina o gymharu â 2019, ond mae gan Yr Eidal a Sbaen 120-125% nifer yr ymwelwyr o Tsieina o gymharu â 2019."

