Newyddion S4C

Tro pedol gan Brifysgol Caerdydd ar ddyfodol yr adran nyrsio

10/04/2025
Prifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud tro pedol ar ddyfodol eu hadran nyrsio yno, yn dilyn cyfnod o ymgynghori.

Roedd y brifysgol wedi cyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn y byddai 400 o staff y sefydliad yn colli eu swyddi, ond mae'r niferoedd hynny bellach wedi gostwng i 286.

Y bwriad gwreiddiol oedd cau'r ysgol nyrsio ond mae dyfodol yr adran honno'n fwy sicr yn dilyn cyhoeddiad ddydd Iau.

Mewn e-bost at staff, dywedodd y brifysgol eu bod wedi llunio “cynllun amgen” allai olygu y byddai cynllun “credadwy” yn fodd o ddiogelu’r ysgol. 

Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Dirpwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, y bydd y cynllun yn golygu y bydd grwpiau llai o fyfyrwyr yn derbyn eu haddysg yno o gymharu â’r ddarpariaeth bresennol. 

“Byddai’r cynlluniau amgen yn golygu y bydd ‘na lai o fyfyrwyr israddedig, gan ganolbwyntio ar safon eu haddysg a’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn.  

“Dylai hyn arwain at gyfran uwch o fyfyrwyr yn graddio'n llwyddiannus ac yn symud i mewn i GIG Cymru.” 

Fe ddaw’r cynlluniau yn dilyn “trafodaethau helaeth” gyda staff, myfyrwyr, Llywodraeth Cymru a sawl corff cyhoeddus gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, meddai’r Athro Riley. 

Dywedodd y bydd cyfarfodydd pellach yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd er mwyn trafod y datblygiad diweddaraf.

Er eu bod yn croesawu'r tro pedol, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi dweud y byddai'r cynllun amgen yn arwain at "lai o nyrsys".

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru: “Penderfyniad Prifysgol Caerdydd i gadw ei darpariaeth nyrsio yw’r peth iawn i’w wneud.

“Roedd yr RCN yn gwrthwynebu’r cau arfaethedig yn chwyrn, a fyddai wedi cael effaith ddinistriol ar lefelau staff nyrsio, addysg nyrsys y dyfodol, ac ansawdd gofal cleifion ledled Cymru.

“Ond rydym yn siomedig i glywed bod llawer o staff wedi cymryd diswyddiad gwirfoddol ac y bydd y ddarpariaeth yn y dyfodol yn llai.

“Yn y pen draw, bydd Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi llai o nyrsys ar adeg pan mae’n hollbwysig ein bod ni’n tyfu’r gweithlu yng Nghymru.”

Fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ym mis Ionawr y byddai 400 o swyddi llawn amser yn cael eu colli yn y sefydliad. Mae'r nifer yma wedi gostwng i 286 bellach. 

Mae rhai aelodau staff wedi derbyn ymddiswyddiadau gwirfoddol yn barod. 

Bydd y brifysgol yn gohirio ystyried unrhyw geisiadau diswyddo gwirfoddol pellach ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wrth i’r cynllun newydd gael ei ystyried. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.