'Dyfodol ansicr' er gwaetha'r cadoediad i un fyfyrwraig o Israel sy'n dysgu'r Gymraeg
Mae myfyrwraig o Israel sydd yn dysgu’r Gymraeg yn dweud nad yw’n bosib gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol er gwaethaf y cadoediad sydd wedi’i gyhoeddi rhwng Israel a Hamas.
Wedi 15 mis o ryfela yn dilyn ymosodiadau gan Hamas ar dir Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddwyd oddeutu 1,200 o bobl, fe fydd cadoediad rhwng lluoedd Israel a Hamas yn dod i rym ddydd Sul 19 Ionawr.
Cafodd 251 o wystlon eu cipio yn ystod y cyrch hwnnw a'u cludo i Gaza. Y gred yw bod 94 o wystlon yn parhau yn nwylo Hamas, gyda 34 o'r rheiny bellach wedi marw.
Yn dilyn y cyrch milwrol, fe lansiodd lluoedd Israel ymosodiad milwrol ar Gaza, gan arwain at tua 46,000 o farwolaethau o fewn y diriogaeth yn ôl yr awdurdodau iechyd yn Gaza, sydd o dan weinyddiaeth Hamas.
Mae Hamas hefyd wedi parhau i saethu miloedd o rocedi i diriogaeth Israel dros gyfnod y rhyfel, gan arwain at farwolaethau, dinistrio adeiladau a chryn ansefydlogrwydd ymhlith y boblogaeth.
‘Teimladau cymysg’
Wrth siarad gyda’r BBC, dywedodd un fyfyrwraig sydd yn “caru dysgu’r Gymraeg” ei bod ganddi “deimladau cymysg” ynglŷn â’r cadoediad.
Mae Yuval Inbar yn fyfyrwraig o Jerwsalem, a oedd wedi gorfod gadael ei chartref yn ystod y gwrthdaro rhwng Israel a Hamas.
“Mae fy nheimladau [am y cadoediad] yn rhai cymysg,” meddai. “O’r foment gyntaf, mae’r cadoediad wedi cymryd amser hir iawn i gyrraedd y fan yma.
“Mae’n teimlo fel bod amser wedi symud yn araf deg iawn.
“Pe byddai wedi bod fy mhenderfyniad i, fe fyddai’r rhyfel di bod ar ben gymaint o fisoedd yn ôl.”
Dywedodd Ms Inbar, a wnaeth siarad gyda Newyddion S4C ym mis Hydref 2023, ei bod yn mwynhau dysgu’r Gymraeg oherwydd ei bod yn “teimlo fod yna cysylltiad rhwng fy hanes innau fel Iddew yn siarad Hebraeg, a’r Cymry.”
Gyda rhai dyddiau yn weddill cyn i’r cadoediad dod i rym, mae hi’n dweud bod y dyfodol yn parhau yn ansicr iddi hi.
“Mae’n rhaid cymryd pethau o ddydd i ddydd. Allwch chi ddim creu cynlluniau hir dymor.
"Un diwrnod rydych chi’n gwneud cynlluniau, y diwrnod wedyn ac mae pethau yn ysgwyd o’ch cwmpas.”