Digwyddiad Ysgol Bro Myrddin: Rhyddhau bachgen 17 oed ar fechnïaeth
Mae bachgen 17 oed o Sir Gâr a gafodd ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Bro Myrddin wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd yr ysgol ei chloi yn sydyn a dirybudd ar gais yr heddlu yn dilyn y bygythiad ddydd Mercher, ond ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Gadawodd disgyblion yr ysgol y safle yn ddiogel yn ddiweddarach.
Mae'r bachgen 17 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw'n mynychu Ysgol Bro Myrddin yn ogystal â chadw at gyrffyw nosweithiol.
Bydd hefyd yn gorfod trosglwyddo unrhyw ddyfeisiau digidol ar gais swyddog er mwyn eu hadolygu.
Nid yw'r bachgen yn ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, a ni chafodd ei arestio yn yr ysgol chwaith.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys fod ymholiadau yn parhau.
