Carcharu dyn am droseddau lles anifeiliaid ar fferm yn Sir Gâr
Mae dyn wedi cael ei garcharu am gyflawni troseddau yn ymwneud â lles anifeiliaid ar fferm yn Sir Gâr.
Cafodd Thomas Raymond Jones o Fferm Penygraig yn Hendy-gwyn ar Daf ei garcharu am 18 wythnos am gyflawni 17 o droseddau.
Roedd y troseddau'n cynnwys achosi, caniatáu neu fethu ag atal dioddefaint diangen ac mae'n dilyn achos llys tri diwrnod yn Llys Ynadon Llanelli.
Cafodd orchymyn i dalu £26,805.10 o gostau'r erlyniad yn llawn o fewn chwe mis a gordal o £154.
Mae Jones hefyd wedi ei wahardd rhag cadw a bod yn berchen ar anifeiliaid am 10 mlynedd.
Cafwyd Mr Jones yn euog o'r holl droseddau nad oedd eisoes wedi pledio'n euog iddyn nhw.
Roedd y rhain yn ymwneud â'r modd roedd yn gofalu am wartheg a chŵn ar ei fferm.
'Amodau anaddas'
Yn ystod eu hymweliad ym mis Chwefror 2024, daeth swyddogion iechyd anifeiliaid o hyd i wartheg yn cael eu cadw mewn amodau byw gwael.
Roedd sawl buwch yn gloff gyda charnau wedi gordyfu a chyflyrau croen. Nid oedd carcasau anifeiliaid wedi cael eu gwaredu'n briodol chwaith.
Daeth y swyddogion hefyd o hyd i gi oedrannus yn byw mewn amodau anaddas, gan ei fod yn cael ei gadw mewn lloc bach llawn sbwriel.
Roedd y ci mewn cyflwr gwael ac roedd angen sylw milfeddygol arno ar unwaith. Fe aeth elusen anifeiliaid i gasglu'r ci.
Yn dilyn archwiliad milfeddygol, nodwyd bod y ci dan bwysau ac yn ddall â chataractau, gyda'i ewinedd hefyd wedi gordyfu.
Oherwydd lefel y dioddefaint, penderfynodd y milfeddygon roi'r ci i gysgu.
Yn dilyn yr ymweliad, cafodd Jones rybudd i gael gwared ar garcas buwch mewn sied a gwella amodau.
Wrth ddychwelyd naw diwrnod yn ddiweddarach, nododd swyddogion nad oedd gwelliannau digonol wedi'u gwneud.
Nid oedd unrhyw sylw milfeddygol wedi'i geisio ar gyfer y gwartheg cloff, ac nid oedd gweddillion anifeiliaid wedi'u gwaredu'n gywir.
Roedd Jones wedi ceisio trin y gwartheg ei hun ac wedi trefnu i dorrwr carnau ymweld â'r fferm.
Ond roedd y cynhyrchion a ddefnyddiwyd yn ymddangos yn hen a nodwyd yn y rhybudd bod sylw milfeddygol yn ofynnol.
Daeth swyddogion hefyd o hyd i fuwch feichiog gloff yn byw mewn amodau anaddas.
Yn dilyn ymweliad gan filfeddyg ac Arolygiaeth Wledig Cymru, cafwyd hyd i nifer o wartheg heb dagiau clust, heb eu cofrestru'n briodol neu heb eu cofrestru o gwbl. Nodwyd bod chwe buwch yn denau a bod dwy yn denau iawn.
Gan fod nifer o bethau o'i le, gosododd Arolygiaeth Wledig Cymru gyfyngiad buches gyfan ar Fferm Penygraig nes bod modd datrys y problemau.
Bron i bum wythnos yn ddiweddarach, cafodd cwynion pellach eu hadrodd am garcas llo nad oedd wedi cael ei waredu'n briodol.
'Atebol'
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am les anifeiliaid: "Rwy'n falch bod gwaith caled tîm lles anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol o ran yr achos hwn.
"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb y byddwn ni bob amser yn hyrwyddo lles anifeiliaid da ac yn dal y rhai nad ydyn nhw'n gwneud hynny yn atebol."
Roedd swyddogion iechyd anifeiliaid wedi ymweld â Fferm Penygraig yn 2022, yn dilyn cwynion nad oedd carcasau anifeiliaid yn cael eu gwaredu'n briodol.
Cafodd rhybuddion eu cyflwyno i Jones i wella arferion, ond cafodd yr un troseddau eu cyflawni yn 2024.
