Sir Gâr: Teulu yn derbyn gorchymyn i dalu £1 miliwn yn ôl ar ôl sefydlu ffatri ganabis

Teulu. McCann

Mae teulu o Sir Gâr a oedd wedi sefydlu ffatri canabis werth bron i £5 miliwn wedi cael gorchymyn i dalu dros £1 miliwn o’u helw troseddol yn ôl.

Fe wnaeth Edward a Linda McCann, â’u mab Daniel, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar gyfer gwrandawiad o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.

Fe gafodd y tri eu carcharu yn 2021 am gynhyrchu a chyflenwi canabis rhwng 2015 a 2020.

Cafodd y ffatri ei ddarganfod ar ôl i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys gael gwarant i chwilio tŷ ym Mlaenllain, ger Hendy-gwyn-ar-Daf, ym mis Hydref 2020.

Yno, daeth swyddogion o hyd i ffatri fawr mewn sied gyda chwe ystafell bwrpasol ar gyfer tyfu'r planhigion, 202 o blanhigion, a thua 80kg o gynnyrch wedi’i sychu – gyda gwerth posibl o fwy na £1.9 miliwn.

Fe gafodd Linda McCann, Jack Whittock, o Arberth, a Justin Liles, o Sanclêr, eu harestio yn syth yn y sied.

Cafodd Edward McCann ei arestio yn y tŷ wrth ymyl y sied, lle cafwyd £10,000 o arian parod.

Cafodd perchennog y safle, Daniel McCann, ei arestio yn Hampshire yn ddiweddarach.

Image
Y ffatri ganabis
Y ffatri ganabis

Dywedodd DCI Rhys Jones: “Roedd hwn yn un o’r gwarantau mwyaf i’r llu erioed ei weithredu. 

“Fe wnaeth y teulu McCann ddewis yr eiddo yma’n benodol, yn meddwl y byddent yn gallu dod i ardal wledig, anghysbell a sefydlu fferm canabis ar raddfa ddiwydiannol heb i neb sylwi.

“Cafodd swmp sylweddol o waith ei roi ar gyfer yr ymchwiliad yma, o’r cychwyn cyntaf er mwyn derbyn cymeradwyaeth ar gyfer y warant gychwynnol, hyd at gasglu pecyn sylweddol o dystiolaeth er mwyn sicrhau cyhuddiadau a chyfnodau hir yn y carchar i Edward, Daniel a Linda McCann.”

Daeth swyddogion archwiliad ariannol i’r casgliad fod y teulu wedi gwneud hyd at £2.4 miliwn dros bum mlynedd.

Mewn gwrandawiad diweddar, clywodd Llys y Goron Abertawe mai cyfanswm yr asedau oedd ar gael i’w hadennill oedd £1,091,330 – gan gynnwys gwerthiant dau eiddo, ceir Mercedes a Porsche, beic Harley-Davidson a gemwaith.

Mae’r tri bellach wedi’u gorchymyn i dalu’r swm hwn yn ôl.

Dywedodd DS Owen Lock: “Rydyn ni wedi sicrhau nid yn unig dedfrydau hir o garchar, ond hefyd nad yw’r teulu McCann yn gallu elwa o’u troseddau.

“Gobeithiwn fod hyn yn rhybudd clir i eraill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.