Tri wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol ym Mhowys
Mae tri o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mhowys ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerbyd Audi llwyd a Toyota Yaris coch ar ffordd yr A489 rhwng Yr Ystog a Lydham.
Ar adeg y gwrthdrawiad, roedd tractor glas gydag atodiad blaen hefyd yn teithio ar yr un rhan o'r ffordd.
Bu farw dau o bobl oedd yn teithio yn y Toyota Yaris, a gyrrwr yr Audi.
Fe ddioddefodd teithiwr arall oedd yn teithio yn y Toyota Yaris anafiadau difrifol ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty gan yr Ambiwlans Awyr.
Mae teulu'r tri fu farw wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Ychwanegodd yr heddlu fod ymchwiliad yn cael ei gynnal, ac mae swyddogion yn awyddus i glywed gan unrhyw un â gwybodaeth gan ddefnyddio'r cyfeirnod '267 ar 11 Rhagfyr'
