'Dal i frwydro': Cyflwyno deisebau yn erbyn cau ysgolion cynradd yn Sir Benfro

Newyddion S4C
Plant yn rhan o'r brotest

Mae rhieni a phlant dwy ysgol yn Sir Benfro wedi cyflwyno deisebau i Gyngor Sir Penfro yn erbyn cau eu hysgolion cynradd.  

Roedd y galeri cyhoeddus yn llawn yn Hwlffordd wrth i ddyfodol Ysgol Clydau yn Nhegryn ac Ysgol Maenorbŷr gael eu trafod, gyda rhai rhieni yn eu dagrau wrth wrando ar y drafodaeth emosiynol ar adegau.

Yn ôl Cyngor Sir Penfro, mae yna ormod o lefydd gwag yn ysgolion y sir, gyda 2000 yn llai o blant nag oedd ym 1996. 

Mae’r awdurdod wedi lansio ymgynghoriad ar gau Ysgol Clydau yn y dyddiau diwethaf, ac mi allai’r ysgol gau ar ddiwedd Awst 2026 os ydy’r cyngor yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun. 

Fe fydd yr ymgynghoriad ar Ysgol Maenorbŷr yn cau ar 19eg o Ragfyr, a’r ymgynghoriad ar ddyfodol Clydau yn cau ar y 23ain o Ionawr.

Roedd 648 wedi arwyddo'r ddeiseb yn erbyn cau Clydau a 1511 yn erbyn cau Maenorbyr. 

Cyn y cyfarfod, bu rhieni a disgyblion Ysgol Clydau yn apelio ar gynghorwyr i wrando ar eu hapel i gadw drysau’r ysgol.  

Un o’r ymgyrchwyr oedd Carol Griffiths, a ddywedodd ei bod yn teimlo yn “drist”.

“Mae tri plentyn da fi wedi mynd drwy’r ysgol gydag anghenion arbennig ac mae’r ysgol wedi bod yn ffantastig,” meddai.

“Ysgol fach sydd wedi gwneud lles i fy mhlant i. Dim jyst ysgol yw Clydau. Mae’n galon ac yn deulu. Mae’n rhywbeth twp i gau’r ysgol.” 

Image
Carol Griffiths
Carol Griffiths

'Yr ysgol yn ffynnu'

Fe gefnogwyd y rhieni gan y Cynghorydd Sir Iwan Ward a ddywedodd eu bod nhw “yma ac ni’n dal i frwydro”.

“Mae pobl yr ardal a’r gymuned yn ardal Clydau yn grac iawn bod nhw wedi agor yr ymgynghoriad yma diwrnodau cyn y nadolig,” meddai.

“Fe gafon ni addewid y bydden ni’n cael gwybod diwedd mis Medi. Ni’n agosau at nadolig. Mae’n siomedig iawn.” 

Image
Iwan Ward
Iwan Ward

Mae Cyngor Sir Penfro yn ystyried cau Ysgol Maenorbŷr, er bod y disgyblion yn cael eu haddysg yn neuadd bentref Jameston gerllaw ers tair blynedd am fod yr ysgol wedi cael ei dinistrio gan dân rhyw dair blynedd nol.  

Wrth gyflwyno’r ddeiseb yn y siambr, dywedodd Richard Hughes ar ran cymuned Maenorbŷr bod yr “ysgol yn ffynnu” o dan “amgylchiadau oedd yn llai na delfrydol.” 

Fe gyhuddodd y cyngor o gyflwyno adroddiad camarweiniol am sefyllfa’r ysgol, gan ddweud bod yna 23 o ddisgyblion mewn adeilad bellach oedd yn addas i rhyw 30. 

Dywedodd bod cau ysgolion fel Maenorbŷr yn “bygwth hyfywdra cymunedau gwledig”.

Image
Ysgol Clydau
Ysgol Clydau

Fe gyflwynwyd deiseb Clydau gan Sarah Farnden, rhiant yn yr ysgol. 

Dywedodd hi bod yr ysgol yn “noddfa” i blant a bod parhad yr ysgol ynghlwm gyda “goroesiad y pentref.” 

Fe ddywedodd hi bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth “byw” yn y gymuned yng ngogledd Sir Benfro a nid rhywbeth oedd yn cael ei “ddysgu” yn unig. 

Dywedodd Bethan Williams, Swyddog ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, nad oedd y cyngor wedi trafod cau yr ysgol yn ddigonnol gyda’r gymuned. 

“Mae opsiynau sydd heb gael eu hystyried,” meddai.

“Ydy mis yn ddigon o amser iddyn nhw ystyried yr holl safbwyntiau yn yr ymgynghoriad?” 

Image
Sarah Farnden
Sarah Farnden

Llefydd gwag

Penderfynodd aelodau’r cabinet i nodi’r ddwy ddeiseb, gyda disgwy penderfyniad terfynol am eu dyfodol ym mis Mawrth. 

Roedd yna drafodaeth hefyd am ddyfodol ysgolion yn ardal Dinbych y Pysgod. Penderfynodd y cynghorwyr i fwrw mlaen gydag ymgynghoriad ar y syniad o sefydlu ysgol 3-19 oed cyfrwng Saesneg yn y dref.  

Mae yna ddyfalu wedi bod ynglŷn â dyfodol ysgol gynradd y dref, sef yr ysgol wirfoddol a reolir, ers iddi ddod I'r amlwg y bydd angen tô newydd ar yr adeilad lai na deng mlynedd ers I'r ysgol gael ei hadeiladu. 

Mae Newydion S4C wedi clywed y byddai yn costio dros £10m i gwblhau’r gwaith. 

Fe gefnogwyd argymhelliad i ystyried sefydlu ysgol 3-19 oed ar ddwy safle i ddechrau, sef ar safleoedd Ysgol Uwchradd Greenhill ac ysgol wirfoddol a reolir Dinbych y Pysgod. 

Y bwriad yn y pendraw ydy canoli’r ysgol ar un safle naill a’i ar dir Greenhill neu ar safle arall 

Penderfynodd y cynghorwyr hefyd i ddechrau ymgynghoriad ar gau ysgol gynradd Stepaside gyda’r bwriad o ganoli addysg cynradd yn Saundersfoot. Gwrthodwyd cais gan y Cynghorydd Alec Cormack i ohirio’r penderfyniad. 

Yn ôl y Cyngor, mae 27% o lefydd gwag yn y sector cynradd yn ardal Dinbych y Pysgod, a 28.6% o lefydd gwag yn y sector uwchradd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.