Cadoediad rhwng Israel a Hamas wedi 15 mis o ymladd
Cadoediad rhwng Israel a Hamas wedi 15 mis o ymladd
Yn ôl adroddiadau o'r Dwyrain Canol mae Israel a Hamas wedi cytuno ar gadoediad wedi 15 mis gwaedlyd o ymladd.
Mae'r cadoediad yn cynnwys cytundeb ar ryddhau gwystlon yr oedd Hamas wedi eu cadw'n gaeth yn dilyn cyrch ar dir Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddwyd oddeutu 1,200 o bobl.
Cafodd 251 o wystlon eu cipio yn ystod y cyrch hwnnw a'u cludo i Gaza.
Y gred yw bod 94 o wystlon yn parhau yn nwylo Hamas, gyda 34 o'r rheiny bellach wedi marw.
Yn dilyn y cyrch milwrol, fe lansiodd lluoedd Israel ymosodiad milwrol ar Gaza, gan arwain at tua 46,000 o farwolaethau o fewn y diriogaeth yn ôl yr awdurdodau iechyd yn Gaza, sydd o dan weinyddiaeth Hamas.
Dywedodd y newyddiadurwr Wyre Davies, sydd wedi gohebu o'r Dwyrain Canol i'r BBC, nad ydi hyn yn golygu fod heddwch yn bendant ar y gorwel.
"Dim ond cam cynta ydi hwn, sy'n para am chwe wythnos," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Y cam mwya pwysig fydd yr ail gam; milwyr Israel yn tynnu mas o Gaza'n llwyr, a gweddill y gwystlon yn cael eu rhyddhau."
Mae elusen Achub y Plant wedi croesawu'r newyddion.
"Ers 15 mis, mae miliwn o blant yn Gaza wedi cael eu dal mewn hunllef, gyda cholled, trawma, a bygythiad i'w bywydau ar bob tro," meddai Alison Griffin o'r mudiad.
"Os bydd y cadoediad yn digwydd, bydd yn rhoi saib allweddol iddyn nhw rhag y bomiau a'r bwledi sydd wedi eu bygwth ers dros flwyddyn.
"Ond dydi o ddim yn ddigon, ac mae'n ras i achub plant sy'n wynebu newyn ac afiechyd."
Yn dilyn y cyhoeddiad roedd golygfeydd o ddathliadau ar Lain Gaza.
Fe fydd y cadoediad yn galluogi cannoedd o filoedd o bobl i ddychwelyd i Ddinas Gaza, a'r gred yw y bydd cymorth dyngarol sylweddol yn cael ei ddarparu i Gaza ei hun unwaith y bydd y cadoediad mewn grym.
Mae swyddfa arlywydd Israel, Isaac Herzog, wedi cyfarfod gyda llywydd y Groes Goch Ryngwladol, Mirjana Spoljaric, wrth i baratoadau gael eu gwneud i gludo'r gwystlon yn ôl i Israel.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Reuters, fe fydd y cadoediad yn un am chwe wythnos fydd yn arwain at luoedd Israel yn gadael Gaza gam wrth gam.