'Ofn ac ansicrwydd': Argraffiadau Rhodri Llywelyn o linell flaen y frwydr rhwng Israel ac Hamas
Mae ofn ac ansicrwydd yn rhemp ar strydoedd Israel a Gaza, yn ôl Gohebydd Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn.
Wedi treulio diwrnodau yn adrodd o Israel ac o fewn filltir o Gaza, dyma argraffiadau Rhodri ar y sefyllfa dyngarol 'argyfyngus' sydd ohoni yn sgil y brwydro rhwng lluoedd Israel ac Hamas.
Mae draig goch ar y drws ffrynt, ac yn y lolfa un o’r posteri Mabinogi ‘na sy’n addurno sawl cartref Cymraeg. Mae lluniau o Fôn mewn fframiau, a bag ‘Eisteddfod’ yn hongian o fwlyn.
Ond tair mil a hanner o filltiroedd o Gymru, mae Rehovot yn wahanol byd. Dyma gartref Nerys Thomas, sy’n wreiddiol o Langefni.
Mae’n egluro i rocedi Hamas basio echdoe, a’i bod wedi gorfod cymryd lloches ar risiau’r bloc o fflatiau sawl tro dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’n well ganddi hynny na rhedeg i’r bunker diogel ar y llawr gwaelod lle mae cymdogion yn cadw gwelyau a gemau bwrdd, cewynnau a photeli dwr - yr hanfodion petai angen cuddio am 72 o oriau.
Byw ar bigau’r drain mae pobl Israel.
Eglurodd Sarah Idan wrtha’i bod milwyr erbyn hyn yn gwarchod mynedfa ysgol feithrin ei bechgyn tair a phump oed yn Jerwsalem.
Mae ganddi hi a gweddill y Cymry i mi eu cyfarfod yn Israel un peth yn gyffredin, sef eu cefnogaeth lwyr i’r fyddin, a’r hyn sy’n cael ei hystyried yma fel rhyfel dros ddyfodol y wlad.
Cafodd 1,400 o Israeliaid eu lladd ar 7 Hydref pan ymosododd grŵp milwriaethus Hamas ar gymunedau ger Gaza.
Yng ngeiriau’r fyfyrwraig ifanc, Yuval Inbar, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn dod o Tel Aviv, "does dim hapusrwydd yn Israel” ers y Sadwrn du hwnnw.
Dyw’r Prif Weinidog ddim yn rhannu’r un gefnogaeth ddi-amod a lluoedd yr Israeli Defence Force (IDF). Daw amser pan y bydd angen i Benjamin Netanyahu ateb cwestiynau anodd ynglŷn â sut y llwyddodd militarwyr i achosi’r fath gyflafan.
Cyn hynny, ma’ gan yr Israeliaid i mi gyfarfod â nhw ddwy flaenoriaeth - rhyddhau’r cannoedd wystlon sy’n gaeth yn Gaza, a ‘dileu’ Hamas.
'Briwsion'
Y canlyniad yw bod miloedd o Balestiniaid cyffredin yn cael eu lladd, er nad oes modd gwirio ffigyrau’r weinyddiaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.
Bues i o fewn milltir i Gaza gan weld dwyster yr ymgyrch fomio. Pob ryw hanner munud o ben bryn ar gyrion Sderot roedd clec ffrwydrad arall. Ma’ golau’n teithio’n gynt na sain. Ond ry’ch chi’n clywed yr ergyd cyn gweld y mwg yn codi o’r targed islaw, rhai eiliadau o ddal anadl yn ddiweddarach.
Heb hawl i groesi’r rhwystrau sy’n gwahanu Gaza ac Israel, ry’n ni fel newyddiadurwyr yn ddibynnol ar gyrff dyngarol, elusennau a chyd-weithwyr Palesteinaidd sy’n byw yn y diriogaeth am wybodaeth.
"Briwsion" sy’n cyrraedd Gaza yn ôl y Cenhedloedd Unedig. Mae cyflenwadau o fwyd, dŵr, meddyginiaeth yn anaml. Does dim digon o danwydd ar gael. Dyw ysbytai ddim yn medru trin cleifion.
'Anghredadwy ac annisgwyl'
Disgrifio’r sefyllfa fel un “gatastroffig” ma’r UN wedi bod yn ei wneud, a’r lluniau argyfyngus sy’n cael eu darlledu yn cyd-fynd ag anobaith y geiriau.
Yn Jerwsalem, roedd tensiynau’n drwch wrth i mi grwydro lonydd cul yr hen ddinas.
Mae goddefgarwch ar brawf pan fod Iddewon ifanc fel Adi yn egluro wrtha’i ei bod hi wedi dechrau cario pepper spray er mwyn gallu amddiffyn ei hun.
Dyw Marwan, sy’n Balesteinaidd ac yn berchennog siop, heb wneud elw ers wythnosau oherwydd bod twristiaid yn cadw draw.
Mae’n dweud bod y sefyllfa’n “…anghredadwy ac annisgwyl...ry’n ni’n diodde’ oherwydd y sefyllfa…does dim gwaith.”
Gan bwyntio at y camera a chodi ei lais, ychwanegodd bod gan bobl gyffredin Gaza, "hawl i fyw fel ti, a fe, a fi.”
Mae ofn ac ansicrwydd yn rhemp oherwydd y rhyfel rhwng Israel a Hamas.