Dau gyn-ddisgybl Glantaf yn y llys wedi eu cyhuddo o dargedu mosg a mynwent Iddewig

Newyddion S4C
Cyfiawnder

Mae dau gyn-ddisgybl o Glantaf wedi eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau terfysgol yn erbyn Mwslemiaid ac Iddewon yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Rhys Edwards a Talan Gethin Vincent, y ddau yn 18 oed, ymddangos drwy gyswllt fideo yn ystod gwrandawiad yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener.

Maen nhw wedi’u cyhuddo ar y cyd o baratoi gweithredoedd terfysgol rhwng 1 Hydref a 16 Tachwedd.

Fe ymddangosodd y ddau o garchar Thameside i gadarnhau eu henwau a’u dyddiadau geni.

Fe wnaeth bargyfreithiwr yr erlyniad, Christopher Hewertson KC, grynhoi’r cyhuddiadau sy’n wynebu’r ddau ddyn ifanc.

Targedau

Mae'r erlyniad yn honni eu bod wedi bwriadu targedu safleoedd Islamaidd ac Iddewig yng Nghaerdydd, gan gynnwys mynwent Iddewig ger Parc y Rhath a mosg yn y ddinas.

Honwyd bod Rhys Edwards wedi defnyddio'r ap Discord i wneud datganiadau yn amlinellu ei fwriad i ladd Mwslimiaid ac Iddewon ac wedi datgan rhagoriaeth ei hil (gwyn) ei hun.

Dywedodd yr erlyniad eu bod yn gweithredu o dan yr enw côd ‘Iron Dome’.

Honnir hefyd i Rhys Edwards ymchwilio am wybodaeth am rannau o arfau, er mwyn ffurfio arf awtomatig AR-15 yn benodol.

Clywodd y llys honiadau hefyd fod Vincent, a oedd wedi edrych ar y llawr drwy gydol y rhan fwyaf o'r gwrandawiad byr, wedi bod yn rhan o gynllunio ymosodiad ar fosg yng Nghaerdydd.

Honnir bod y ddau wedi bwriadu gyrru i safle mosg mewn fan gyda phlatiau adnabod ffug cyn rhuthro i leoliad arall a gadael mewn cerbyd gwahanol.

Ffrwydron

Clywodd y llys honiad gan yr erlyniad hefyd fod y ddau wedi trafod llwytho fan gyda thua 1000kg o ffrwydron ar gyfer ymosodiad posibl, a phrynu cemegau o wahanol leoliadau i osgoi cael eu canfod.

Honnwyd bod Rhys Edwards wedi bwriadu bod yn gyfrifol am gamau diogelwch, gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd diogelwch ar liniaduron a chael lluniau o'r awyr o rai targedau, gan gynnwys y fynwent Iddewig ger Parc y Rhath.

Cafwyd awgrym yn y llys eu bod yn bwriadu pledio'n ddieuog.

Dywedodd Andrew Davies KC, ar ran y diffynydd Rhys Edwards, bod negeseuon y dyn ifanc wedi bod yn ymgais i gael ymateb – “rage-baiting” – ac nad oedd bwriad ganddo i gyflawni ymosodiad terfysgol.

Dywedodd bargyfreithiwr Talan Gethin Vincent, Heath Edwards KC, nad oedd ganddo chwaith unrhyw fwriad i gynnal ymosodiad.

Mae achos llys tair wythnos wedi’i drefnu yn Llys y Goron Bryste ar gyfer 1 Chwefror 2027.

Fe fydd y ddau yn ymddangos eto ar gyfer gwrandawiad cyn yr achos yn llys yr Old Bailey ar 27 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.