Cipolwg ar benawdau’r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.
Ap GIG yn ‘peryglu adferiad yr economi’ oherwydd prinder staff
Mae Cymdeithas Cyflogwyr y CBI wedi rhybuddio fod prinder staff yn sgil Covid-19 yn “peryglu adferiad yr economi”. Daw hyn wrth i ffigyrau diweddaraf ddangos fod mwy na 500,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi eu "pingio' gan yr ap yn yr wythnos hyd at 7 Gorffennaf, gyda'r niferoedd wedi cynyddu 46% o'i gymharu â'r wythnos flaenorol.
Honiadau am y 'maffia ieithyddol' yn elfen o ganlyniad pleidlais datganoli 1997
Roedd dadleuon am y Gymraeg yn un o’r rhesymau pam fod canlyniad refferendwm ar sefydlu Cynulliad i Gymru mor agos yn 1997. Dyna gasgliad adroddiad newydd sydd wedi ei rhyddhau gan yr Archif Genedlaethol. Fe gafwyd buddugoliaeth o drwch blewyn i'r ymgyrch o blaid datganoli yn y refferendwm, gyda mwyafrif o 50.3%.
Y Gemau Olympaidd: Pobl yn 'grac iawn' yn Tokyo
Tri diwrnod cyn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Tokyo, mae'r achosion cyntaf o Covid-19 wedi eu cadarnhau ymhlith cystadleuwyr ym mhentref yr athletwyr. Yn ôl Takeshi Koike, darlithydd ym Mhrifysgol Daito Bunka yn Tokyo, “mae llawer o bobl yn teimlo yn erbyn y Gemau Olympaidd”. Daw ei sylwadau yn sgil pryderon yn Japan am y gemau wrth i nifer yr achosion o Covid-19 gynyddu dros yr wythnosau diwethaf.
Cofnodi diwrnod poethaf y flwyddyn yng Nghymru ddydd Llun
Caerdydd oedd y lle poethaf yng Nghymru ddydd Llun, ac roedd y tymheredd yn y brifddinas yn uwch nag ar unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn hyd yma. Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd roi rhybudd oren am wres eithafol mewn grym yn rhannau o’r de.
Pryder bydd cŵn yn orbryderus wrth i ganllawiau Covid-19 lacio
Mae elusennau a sefydliadau lles anifeiliaid yn pryderu bydd cŵn, a gafodd eu prynu yn ystod cyfnod clo Covid-19, yn orbryderus wrth i’w perchnogion fynd yn ôl i fywyd cyn y pandemig. Fe ddatblygodd ci Niamh Monaghan orbryder wrth iddi ddychwelyd i’r gweithle. Mae angen i berchnogion ystyried sut i ofalu am eu cŵn wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, yn ôl yr RSPCA.