Ap GIG yn ‘peryglu adferiad yr economi’ oherwydd prinder staff
Ap GIG yn ‘peryglu adferiad yr economi’ oherwydd prinder staff
Mae prinder staff yn sgil Covid-19 yn "peryglu adferiad yr economi".
Dyna'r rhybudd gan Gymdeithas Cyflogwyr y CBI wrth i ffigyrau diweddaraf ddangos fod mwy na 500,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi eu "pingio' gan yr ap yn yr wythnos hyd at 7 Gorffennaf, gyda'r niferoedd wedi cynyddu 46% o'i gymharu â'r wythnos flaenorol.
Mae ap y Gwasanaeth Iechyd yn rhybuddio pobl i aros adref am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â Covid-19.
Yn Lloegr fodd bynnag, mae Prif Weinidog Boris Johnson wedi awgrymu y bydd y rheolau yn gallu cael eu llacio i ganran fach o weithwyr hanfodol, a hynny er mwyn iddyn nhw barhau i fynd i'r gweithle yn unig.
'Angen newid'
Mae cwmni cyfanwerthwr bwyd Castell Howell o Sir Gaerfyrddin yn galw am yr un math o newid yng Nghymru.
“Y broblem fwya' wrth gwrs yw lle mae mwyafrif o bobl wedi cael o leiaf un brechlyn erbyn hyn, a nifer o bobl wrth gwrs wedi cael y ddau," dywedodd Nigel Williams, Cyfarwyddwr Cyllideb y cwmni.
"A hyd yn oed os yw rhywun yn cael ei brofi yn negatif maen nhw dal yn gorfod hunan ynysu am hyd at 10 diwrnod.
"Ac mae hwnna i weld i ni fel busnesau yn rhywbeth hollol ddiangen, a bydden i'n ymbil ar y llywodraeth i edrych ar hyn o frys, ac yn newid e o fewn y dyddiau nesa' os yn bosib. Achos mae pethau yn mynd yn brysur ofnadwy gyda'r ysgolion wedi torri.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n gobeithio newid y rheolau fel bod modd i bobl sydd wedi eu brechu'n llawn beidio gorfod hunan ynysu os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â Covid-19 yn y mis nesaf.